'Llwyddiant' sioe lwyfan am beryglon neidio i'r dŵr
- Cyhoeddwyd
Mae sioe lwyfan oedd yn rhybuddio pobl ifanc rhag neidio i'r dŵr o uchder wedi cael ei chanmol gan swyddogion porthladdoedd.
Mae'r weithred sy'n cael ei alw'n 'tombstoning' yn cynnwys neidio oddi ar glogwynau uchel i'r dŵr wedi achosi nifer o anafiadau yn ogystal â marwolaethau yn y gorffennol.
I geisio taclo'r broblem, fe wnaeth cwmni theatr Tir na nÓg ymweld ag ysgolion yng Nghaerdydd ac Aberdaugleddau.
Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd wedi dweud nad ydyn nhw wedi cael digwyddiadau o'r fath ers dwy flynedd.
Dywedodd arweinydd tîm yr awdurdod, Natalie Taylor: "Fe gafon ni ddigwyddiad difrifol tua thair blynedd yn ôl gyda dyn yn cael ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
"Oherwydd 'tombstoning' roedden yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o gael y neges allan o ran diogelwch y dŵr i bobl.
"Roeddem yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, ond roedd hi'n anodd gweld os oedd y neges yn cydio mewn pobl ifanc.
"Penderfynais fod angen i ni wneud rhywbeth mwy dramatig a dyma sut ddaeth y syniad ar gyfer y sioe lwyfan."
1,000 wedi gwylio
Mae cynhyrchiad Theatr Tir na nÓg 'Would you Jump' yn adrodd stori meddyg sy'n galaru wedi trasiedi 'tombstoning'.
Fe gafodd y sioe lwyfan ei pherfformio yn gyntaf mewn ysgolion y llynedd, ac mae wedi cael ei gweld gan dros 1,000 o bobl ifanc.
"Mae nifer y digwyddiadau wedi gostwng yn sylweddol," meddai Ms Taylor.
"Y gobaith yw bydd y neges yn cael ei lledaenu i borthladdoedd eraill yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2017