Wylfa Newydd yn sicrhau cymeradwyaeth Ewropeaidd

  • Cyhoeddwyd
Wylfa NewyddFfynhonnell y llun, Horizon

Mae Pŵer Niwclear Horizon wedi derbyn cymeradwyaeth amgylcheddol Ewropeaidd ar gyfer datblygiad Wylfa Newydd.

Cafodd y cynlluniau ar gyfer y prosiect ar Ynys Môn "farn gadarnhaol" gan y Comisiwn Ewropeaidd gan ddweud na fydd yr orsaf yn cael effaith sylweddol ar iechyd na'r amgylchedd.

Roedd y cais yn nodi sut y bydd mesurau ynysu a diogelwch Horizon yn sicrhau na fydd proses waredu'r gwastraff ymbelydrol yn arwain at lygru arwyddocaol i unrhyw wlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Duncan Hawthorne, Prif Weithredwr Horizon fod y cymeradwyaeth yn "garreg filltir bwysig arall i brosiect Wylfa Newydd ac yn rhoi momentwm sylweddol i'r prosiect".

Ychwanegodd: "Byddwn rŵan yn parhau i weithio gyda'r rheoleiddiwr amgylcheddol yng Nghymru i fwrw ymlaen â'r gymeradwyaeth hon ar gyfer y trwyddedau domestig sydd hefyd eu hangen ar Wylfa Newydd."