ACau yn pleidleisio o blaid deddf isafswm pris alcohol
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi pleidleisio o blaid mesur fydd yn gosod pris isafswm ar gyfer gwerthu alcohol yng Nghymru.
Mae gweinidogion yn dadlau y byddai mynd i'r afael â gor-yfed yn arbed o leiaf un bywyd bob wythnos, gan arwain at ostyngiad o 1,400 y flwyddyn yn nifer y bobl sydd angen triniaeth ysbyty.
Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi penderfynu eto beth fydd lefel yr isafbris.
Pe byddai isafbris o 50c yr uned o alcohol yn cael ei bennu, fe fyddai can o seidr yn costio o leiaf £1 a photel o win yn costio o leiaf £4.69.
Fe fydd ymgynghoriad yn digwydd cyn diwedd y flwyddyn ar lefel yr isafbris, gyda'r bwriad o'i gyflwyno yn 2019.
Mae rheolwyr iechyd yn anelu at leihau nifer y marwolaethau â chysylltiad ag alcohol.
'Deddfwriaeth bwysig'
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: "Rwy'n falch iawn bod aelodau'r Cynulliad wedi cymeradwyo ein deddfwriaeth bwysig.
"Y llynedd yn unig, bu farw dros 500 o bobl am resymau sy'n gysylltiedig ag alcohol a chafodd bron i 55,000 o bobl eu derbyn i'r ysbyty yng Nghymru am yr un rhesymau. Roedd cyfanswm y costau gofal iechyd uniongyrchol y gellir eu priodoli i alcohol tua £159m.
"Ond mae'r dinistr y tu ôl i'r ffigurau hyn yn fater pwysicach fyth. Dinistr i deuluoedd, yr effeithiau ar gymunedau a'r canlyniadau ar gyfer staff ein gwasanaethau iechyd a chymorth gan fod pob un ohonynt yn ymdopi ag effeithiau marwolaethau a chlefydau sy'n gysylltiedig ag alcohol bob dydd.
Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) wedi croesawu canlyniad y bleidlais, gan ddweud mewn datganiad: "Mae BMA Cymru yn falch fod y Cynulliad wedi pasio'r ddeddfwriaeth hanfodol yma.
"Mae gosod isafbris yn bolisi sy'n mynd i helpu achub bywydau a lleihau'r baich y mae alcohol yn ei roi ar ein gwasanaeth iechyd, ac yn bwysicach ar unigolion a'u teuluoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2017