'Asesu' cwyn yn erbyn arweinydd cyngor Sir y Fflint

  • Cyhoeddwyd
Aaron Shotton
Disgrifiad o’r llun,

Aaron Shotton yw arweinydd cyngor Sir Fflint

Mae cwyn yn erbyn arweinydd Cyngor Sir y Fflint yn cael ei asesu gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Fe gadarnhaodd swyddfa'r ombwdsmon eu bod wedi derbyn cwyn yn erbyn Aaron Shotton.

Nid yw natur y gwyn yn ei erbyn wedi cael ei ddatgelu.

Dywedodd llefarydd ar ran Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru y bydd y gwyn yn cael ei hasesu cyn penderfynu os oes angen ymchwilio'r mater.

Mae Mr Shotton wedi bod yn arweinydd ar y cyngor ers 2012 a hefyd yn aelod o'r cabinet dros gyllid.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Y Fflint eu bod wedi "dod i wybod am rai honiadau yn ddiweddar", bod yr honiadau hynny wedi'u cyfeirio at yr Ombwdsmon, ac mai dyna'r "llwybr priodol ar gyfer ymchwilio i unrhyw doriadau honedig yn y côd ymddygiad".

Ychwanegodd: "Byddai'n amhriodol i'r cyngor wneud sylw pellach, gan gadw mewn golwg ein dyletswydd gofal i unrhyw aelod staff allai fod â chysylltiad neu ddod yn agored i niwed yn sgil unrhyw honiadau."

Mae Mr Shotton a Llafur Cymru wedi derbyn cais am ymateb.