'Dim lle i aflonyddu o fewn y Cynulliad' medd arolwg

  • Cyhoeddwyd
Cynulliad

Mae Comisiwn y Cynulliad yn dweud nad oes lle i unrhyw fath o ymddygiad amhriodol o fewn y sefydliad.

Dywedodd y comisiwn fod cynnwys arolwg ar aflonyddu yn "anodd" i ACau ei ddarllen, ac yn rhoi mandad ar gyfer "newidiadau radical" i'r ffordd y mae'r Cynulliad yn trin cwynion.

Ac mae angen "gwneud llawer mwy i newid ymddygiad personol", meddai datganiad y comisiwn - y corff trawsbleidiol sy'n goruwchwylio trefniadau rhedeg y Cynulliad.

Mae'r Llywydd, Elin Jones, wedi ysgrifennu at bob arweinydd plaid yn gofyn iddyn nhw godi'r mater o fewn eu grwpiau.

'Anodd cwyno

Dywed y comisiwn fod yr arolwg yn amlygu tystiolaeth bellach o ba mor "anodd yw cwyno am wleidyddion ac uwch reolwyr".

Mae pryder wedi ei fynegi, meddai, am effaith cyflwyno cwyn ffurfiol ar yrfa'r unigolyn sy'n gwneud y gwyn.

"Mae hynny'n gwbl annerbyniol," medd y comisiwn.

Roedd gwahoddiad i weithwyr y Cynulliad, ACau a'u staff gymryd rhan yn yr arolwg rhwng Ebrill a Mai heb orfod rhoi enw:

  • Cafwyd 128 o ymatebion, sef 16.8% o'r ymatebwyr posib.

  • Dywedodd 32 eu bod wedi cael profiad o ymddygiad amhriodol "ar sawl achlysur, naill ai fel aelod o staff y comisiwn, AC neu grŵp o fewn y Cynulliad".

  • Roedd pump arall wedi cael profiad o aflonyddu ar un achlysur.

  • Dywedodd 29 o bobl eu bod wedi bod yn dyst i ymddygiad amhriodol "sawl tro" a dywedodd 13 eu bod wedi gweld y fath ymddygiad unwaith.

  • Dywedodd 69 o bobl nad oedden nhw wedi dod ar draws unrhyw fath o aflonyddu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae llythyr y Llywydd, Elin Jones yn gofyn i arweinwyr y pleidiau drafod y mater o fewn eu grwpiau

"Nod yr arolwg oedd gweld a ydym yn gwneud trefniadau priodol, ac i edrych ar brofiadau o ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad, mewn swyddfeydd yn yr etholaethau neu unrhyw le arall y mae unigolion yn gweithio," meddai'r comisiwn.

"Tra bo mwyafrif y rhai wnaeth ymateb yn dweud nad ydyn nhw erioed wedi profi na gweld ymddygiad amhriodol, mae'r canfyddiadau'n ddigon i roi mandad ar gyfer newidiadau radical i'r ffordd rydym fel unigolion ac ar y cyd fel sefydliad democrataidd Cymru yn dirnad ymddygiad amhriodol, yn cyflwyno gwybodaeth am ddigwyddiadau ac yn rhoi cefnogaeth i'r rhai sy'n cwyno a'r rhai sy'n cael eu cyhuddo."

Mae'r comisiwn hefyd yn dweud bod yr arolwg yn amlygu achosion a gafodd eu trin yn effeithiol heb orfod cychwyn camau swyddogol, ac yn dweud fod y Cynulliad yn lle da i weithio, ond yn cydnabod bod "angen gwneud llawer mwy i newid ymddygiad personol .... i gydfynd â'r polisi Urddas a Pharch, ac i sicrhau fod unigolion yn teimlo eu bod yn gallu codi cwynion a chael datrysiad i'w pryderon."