Bachgen am wisgo sgert 'fel protest'

  • Cyhoeddwyd
Louis Fice yn gwisgo sgertFfynhonnell y llun, Louis Fice
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Louis Fice, 16, fe benderfynodd wisgo sgert i'r ysgol ar ôl cael ei hel adre am wisgo siorts

Mae bachgen ysgol o Geredigion, a wisgodd sgert i'r dosbarth ar ôl cael ei hel adre am wisgo siorts mewn tywydd poeth, yn dweud ei fod yn "brwydro dros gyfleoedd cyfartal".

Yn ôl Louis Fice mae gwisgo trywsus mewn tywydd poeth yn "hynod anghyfforddus".

Pan ddaeth y bachgen 16 oed yn ôl i Ysgol Gyfun Aberaeron mewn sgert, dywedwyd wrtho na fyddai'n cael ei gwisgo am mai bachgen yw.

Yn ôl prifathro'r ysgol mae bechgyn yn cael gwisgo siorts os yw'n rhoi caniatâd iddyn nhw.

"Rwy'n brwydro nid yn unig am gyfleoedd cyfartal i fechgyn", meddai Louis, "ond am degwch i bawb".

Tywydd poeth

Yn ôl Louis, fe gafodd yr athrawon air gydag e ddydd Mawrth diwethaf ar ôl cyrraedd yr ysgol mewn siorts, ac fe geisiodd esbonio wrth yr athrawon fod hyn yn effeithio ar ei addysg.

"Rhoddodd y pennaeth cynorthwyol ddau opsiwn i mi: un ai fynd i ddewis trywsus o'r pentwr dillad coll, neu fynd adre," ac yn ôl Louis fe benderfynodd fynd adre.

Fe wisgodd drywsus ddydd Iau am ei bod hi'n oer, ac yna fe wisgodd sgert ddydd Gwener.

Dywedodd y disgybl chweched dosbarth ei fod wedi cael ei hel o'r dosbarth cyn cael "darlith" am dri chwarter awr.

Yn ôl Louis fe fydd yn parhau i wisgo'r sgert nes bod polisi gwisg yr ysgol yn cael ei newid.

'Categoreiddio'

"Pan ofynnais pam na allen i wisgo sgert i'r ysgol, dywedon nhw wrtha i na fydden i'n cael gwneud am mai bachgen ydw i.

"Yn bersonol, dwi'n dweud mai bachgen ydw i ond mae gen i rai ffrindiau 'trans'. Rhag eu cywilydd am fy nghategoreiddio oherwydd fy mod i'n edrych fel bachgen."

Dywedodd Prifathro Ysgol Gyfun Aberaeron fod modd i ddisgyblion geisio newid y polisi gwisg ysgol drwy gyngor yr ysgol ac y byddai unrhyw benderfyniad terfynol yn cael ei wneud yn dilyn ymgynghoriad.

"Mae'r ysgol wedi caniatáu i ddisgyblion wisgo siorts yn ystod tywydd poeth iawn yn dilyn cyhoeddiadau gan y Prifathro", meddai Mr Jones.