Agor a gohirio cwest damwain awyren Y Fali

  • Cyhoeddwyd
jonathan baylissFfynhonnell y llun, Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r Corpral Jonathan Bayliss yn y digwyddiad fis Mawrth

Mae cwest i farwolaeth peiriannydd y Red Arrows a fu farw mewn damwain awyren ar Ynys Môn wedi'i agor a'i ohirio.

Bu farw Jonathan Harvey Bayliss, 41 oed, pan wnaeth yr awyren Hawk yr oedd yn teithio arni daro'r llain lanio yn RAF Fali, Ynys Môn ar 20 Mawrth eleni.

Peilot yr awyren oedd yr Awyr-Lefftenant David Stark, a fe lwyddodd i ymdaflu o'r awyren cyn iddi daro'r ddaear.

Dywedodd y crwner, Dewi Pritchard Jones nad oedd yn gallu pennu dyddiad pendant ar gyfer y gwrandawiad.

"Gan mai marwolaeth milwrol yw hwn," meddai, "y sefyllfa bresennol yw bod y Weinyddiaeth Amddiffyn angen cynnal eu hymchwiliadau cyn pasio'r wybodaeth at y crwner.

"Dydw i heb glywed unrhyw beth eto, ac o 'mhrofiad i, mae'n annhebygol bydd yn y 12 mis nesa.

"Bydd materion diogelwch yn oedi'r cwest ymhellach," meddai.