Damwain Awyren Fali: Cyhoeddi enw peiriannydd fu farw
- Cyhoeddwyd

Bu farw'r Corpral Jonathan Bayliss yn y digwyddiad ddydd Mawrth
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau mae Corpral Jonathan Bayliss oedd y peiriannydd fu farw mewn damwain awyren yn Y Fali ddydd Mawrth.
Bu farw Corpral Bayliss pan wnaeth yr awyren Hawk yr oedd yn teithio arni daro'r llain lanio am tua 13:30.
Mae'r ymchwiliad i achos y digwyddiad yn parhau.
Peilot yr awyren oedd yr Awyr-Lefftenant David Stark, ac mae yntau'n dal i gael triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau sydd ddim yn peryglu ei fywyd.
Llwyddodd Awyr-Lefftenant Stark i ymdaflu o'r awyren cyn iddi daro'r ddaear.

Yr Awyr-Lefftenant David Stark oedd peilot yr awyren
Roedd y ddau yn aelodau o dîm hedfan enwog y Red Arrows.
Mae'r Llu Awyr Brenhinol wedi atal hediadau bob awyren Hawk F1 wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo, sy'n arferol mewn achosion o'r fath.
Rhoddwyd teyrngedau i Corpral Bayliss, oedd yn beiriannydd gyda'r tîm.

Roedd mwg du i'w weld yn codi o'r safle
Dywedodd Sarjant Will Allen, oedd yn gydweithiwr agos gyda Corpral Bayliss ac yn arweinydd peirianwyr y Red Arrows: "Roedd gan Jon y gallu i ysbrydoli tîm a'r rhai o'i gwmpas, waeth beth oedd eu ranc na'u rôl.
"Roedd mor falch o gael ei ddewis i ymuno gyda'r tîm ar gyfer 2018, ac yn teimlo ei fod wedi cyrraedd uchelgais oes.
"Yn y gwaith a thu allan, roedd yn ddyn hael, caredig a gofalgar y gallech chi ddibynnu arno bob tro."

Dywedodd pennaeth y Red Arrows, Wing-Commander Andrew Keith: "Fel peiriannydd fe wnaeth Corpral Bayliss gyfraniad enfawr i sicrhau bod y Red Arrows yn medru perfformio i bobl ledled y byd, ac rwy'n gwybod mor falch oedd e i fod yn rhan o'r tîm.
"Roedd yn gydweithiwr poblogaidd ac yn rhywun yr oedd pobl â pharch mawr ato.
"Mae teulu'r Red Arrows yn un agos sy'n byw a gweithio gyda'n gilydd, ac mae'r llu o negeseuon o gydymdeimlad sydd wedi eu derbyn o bedwar ban byd wedi bod yn gysur mawr i ni gyd, ac rydym yn ddiolchgar dros ben am hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2018