Rygbi: Cyhoeddi manylion grwpiau Ewrop 2018/19
- Cyhoeddwyd

Bydd rowndiau terfynol Cwpan Ewrop a Chwpan Her Ewrop yn cael eu cynnal yn Newcastle ym mis Mai 2019
Mae'r Scarlets wedi cael eu rhoi yn yr un grŵp â Chaerlyr, Racing 92 ac Ulster yng nghystadleuaeth Cwpan Pencampwyr Ewrop Heineken y tymor nesaf.
Cafodd y grwpiau eu penderfynu mewn seremoni yn yr Amgueddfa Olympaidd yn Lausanne, Y Swisdir brynhawn Mercher.
Fe gyrhaeddodd y Scarlets rownd gyn-derfynol y gystadleuaeth y tymor diwethaf, gan golli yn erbyn y deiliaid, Leinster.
Mae'r Gleision, sydd hefyd wedi sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth ar ôl ennill Cwpan Her Ewrop y tymor diwethaf, wedi ei gosod yng ngrŵp 3, gyda phencampwyr presennol cynghrair Lloegr, y Saraseniaid, yn ogystal â Glasgow a Lyon o Ffrainc.

Gleision Caerdydd wnaeth godi Cwpan Her Ewrop yn y rownd derfynol ym mis Mai eleni
Cafodd grwpiau y Gweilch a'r Dreigiau yn y Cwpan Her eu penderfynu yn ystod yr un seremoni hefyd.
Mae'r Dreigiau wedi ei gosod yng ngrŵp un gyda Northampton, Clermont Auvergne o Ffrainc a Saraseniaid Timisoara o Rwmania.
Bydd y Gweilch yn wynebu dau dîm o Ffrainc - Stade Francais Paris a Pau - a thîm Caerwrangon.
Bydd y gemau cyntaf yn cael eu cynnal ym mis Hydref.

Grwpiau Cwpan Pencampwyr Ewrop Heineken 2018/19
Grŵp 1: Leinster, Wasps, Toulouse, Caerfaddon
Grŵp 2: Castres Olympique, Caerwysg, Munster, Caerloyw
Grŵp 3: Saraseniaid, Glasgow, Lyon, Gleision Caerdydd
Grŵp 4: Scarlets, Racing 92, Caerlyr, Ulster
Grŵp 5: Montpellier, Newcastle Falcons, Caeredin, RC Toulon
Grwpiau'r Cwpan Her 2018/19:
Grŵp 1: Northampton Saints, ASM Clermont Auvergne, Y Dreigiau, Saraseniaid Timisoara
Grŵp 2: Pau, Y Gweilch, Caerwrangon, Stade Français Paris
Grŵp 3: Sale Sharks, Connacht, Bordeaux-Bègles, Perpignan
Grŵp 4: La Rochelle, Zebre, Bristol Bears, Enisei-STM
Grŵp 5: Benetton Rugby, Harlequins, Agen, Grenoble