'Angen monitro nawdd i lwybrau cerdded a seiclo'
- Cyhoeddwyd
Mae elusen seiclo'n poeni bod nifer o gynlluniau cerdded a seiclo yn derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru er eu bod wedi eu cynllunio'n wael.
Mae Sustrans yn un o nifer o grwpiau sy'n rhoi tystiolaeth i ACau ddydd Iau ar gyflwr ein ffyrdd.
Yn ôl y grŵp, sy'n ymgyrchu dros ddatblygu rhwydwaith seiclo a cherdded, mae angen monitro'r modd mae'r nawdd yn cael ei ddosbarthu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.
Ymchwiliad
Mae Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i gyflwr ffyrdd Cymru.
Un cwestiwn sy'n cael ei drafod yw a oes gan Gymru agwedd gynaliadwy at gynnal a chadw a gwella'r rhwydwaith ffyrdd.
"Mae Sustrans o'r farn ei bod hi'n rhy gynnar i ymateb yn llawn, ond mae'r arwyddion cynnar yn awgrymu nad yw hynny'n digwydd," medd cyfarwyddwr Sustrans, Steve Brooks.
Yn 2013, cafodd cyfraith - y Ddeddf Teithio Llesol - ei chymedarwyo gan Aelodau Cynulliad yn dweud y dylai cynghorau ddarparu llwybrau seiclo.
Mae 'na feirniadaeth wedi bod i'r gwaith o'i chyflwyno.
"Mae'r Ddeddf Teithio Llesol wedi ei chyflwyno ers 2013, ond 2018/19 fydd y flwyddyn gyntaf lle mae nawdd sylweddol yn cael ei ddarparu ar gyfer rhwydwiath deithio llesol.
"Does dim sicrwydd ansawdd canolog i'w gael ar gynlluniau teithio llesol, o ran manylion y cynlluniau, ac felly mae llawer o brosiectau'n dal i dderbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru er eu bod nhw wedi eu cynllunio'n wael, neu eu bod yn defnyddio hen safonau cynllunio."
'Angen monitro'
Mae'r dystiolaeth yn dweud fod rhoi nawdd tymor byr fesul blwyddyn yn rhoi "gormod o bwysau ar awdurdodau lleol i weithredu cynlluniau heb baratoi'n bwrpasol a chynllunio effeithiol".
"Dylai rhaglenni nawdd Llywodraeth Cymru gael eu hymestyn dros nifer o flynyddoedd a chael eu monitro'n effeithiol er mwyn sicrhau eu bod yn delifro seilwaith gynaliadwy a chost effeithiol sy'n annog gwell defnydd ohono," ychwanegodd Mr Brooks.
Bydd cyfanswm o £60m i gael ei wario gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod o dair blynedd ar rwydwaith seiclo, gan gynnwys llwybrau newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2018
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2017