Carwyn Jones: 'Bydden i ddim yn beicio yng Nghaerdydd'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud na fyddai'n beicio yng nghanol dinas Caerdydd.

Wrth siarad mewn digwyddiad i hyrwyddo seiclo, dywedodd Mr Jones y byddai wedi gwneud yn ei arddegau ond ddim bellach.

"Fe fydden i petai modd gwneud heb draffig wrth fy ymyl, heb fws wrth fy ymyl neu heb gar wrth fy ymyl," meddai.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £60m yn cael ei wario erbyn 2021 ar isadeiledd beicio, gan gynnwys llwybrau newydd.

'Y neges yn glir'

Yn 2013 fe wnaeth ACau basio deddf yn dweud y dylai cynghorau ddarparu llwybrau beicio, ond mae beirniadaeth wedi bod o'r ffordd y mae'r ddeddf wedi ei gweithredu.

Mae rhybudd hefyd y gallai cynnig y llywodraeth i adael i rai lorïau ddefnyddio lonydd bysiau - sydd hefyd yn cael eu defnyddio gan feicwyr - beryglu bywydau.

Dywedodd Mr Jones fod angen annog beicwyr sydd yn llai parod neu hyderus i fynd ar y ffordd.

Ond pan ofynnwyd i AC Pen-y-bont a fyddai'n beicio yn y brifddinas ei hun, dywedodd: "Na, na, fydden i ddim. Yn bersonol, na.

"Pan oeddwn i'n 18 fe fydden i wedi, ond pan chi yn eich arddegau 'dych chi'n credu y gallwch chi wneud unrhyw beth."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Carwyn Jones drafod y buddsoddiad newydd yng nghaffi I Want To Ride My Bike Cafe yng Nghaerdydd

Yn ddiweddar mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi cynlluniau i annog mwy o seiclo, gan gynnwys gwasanaeth llogi beiciau.

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas ei fod yn croesawu'r cyllid newydd a bod angen buddsoddi mwy mewn isadeiledd beicio.

"Dwi'n cario 'mlaen clywed y neges yna'n glir gan bobl Caerdydd eu bod nhw wir eisiau gwneud y newid yna o ddefnyddio'u ceir i seiclo," meddai.

Ychwanegodd cyfarwyddwr elusen Sustrans Cymru, Steve Brooks y byddai "mwy o lwybrau beicio, ar wahân i draffig mewn trefi yn cyfrannu'n fawr tuag at annog pobl i adael eu ceir adref a seiclo'r siwrneiau byr".