Dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad ar yr M4
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cyffyrdd 24 a 23a ar yr M4 brynhawn Mercher
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi fod dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar yr M4 ger Casnewydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ffordd rhwng cyffordd 24, Coldra a 23a Magwyr tua 17:10 brynhawn Mercher.
Roedd car Audi Q5 glas wedi gadael y ffordd.
Dioddefodd gyrrwr y car anafiadau difrifol i'w ben a chafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ond bu farw o'i anafiadau'n ddiweddarach.
Cafodd teithiwr yn y car ei drin am fân anafiadau i'w ben.
Mae swyddogion arbenigol yn cynnig cymorth i deulu'r dyn fu farw.
Mae ymchwiliad yn parhau i'r digwyddiad, ac mae'r heddlu'n gofyn i lygad-dystion gysylltu â nhw ar 101, a dyfynnu'r cyfeirnod 365 20/6/18.