Dathlu gweithwyr anhygoel y Gwasanaeth Iechyd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70 oed eleni ac mae BBC Cymru Fyw yn nodi'r achlysur trwy gyhoeddi casgliad o luniau sy'n dathlu'r llu o weithwyr anhygoel sydd wedi cynrychioli'r gwasanaeth ers ei sefydlu - o'r dyddiau cynnar hyd heddiw.

Os hoffech ychwanegu eich lluniau a'ch straeon chi o'r Gwasanaeth Iechyd, e-bostiwch cymrufyw@bbc.co.uk. Gallwch hefyd eu hanfon drwy Facebook BBC Cymru Fyw, dolen allanol neu drwy ddefnyddio'r hashnod #GIG70 mewn neges ar Twitter.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Cyn bodolaeth y Gwasanaeth Iechyd, dyma lun o ystafell lawdriniaeth ysbyty Sili ym Mro Morgannwg yn nechrau'r 1930au. Alice Stocker o'r Porth yn y Rhondda yw'r nyrs theatr ar y chwith yn ei hugeiniau cynnar - roedd wedi bod yn nyrsio ers pan oedd yn 16 oed.

Codwyd yr ysbyty i drin cleifion diciâu ac yn ddiweddarach bu'n trin milwyr oedd wedi eu hanafu yn yr Ail Ryfel Byd cyn dod yn ysbyty seiciatryddol dan ofal y Gwasanaeth Iechyd. Caeodd yn 1993 ac mae bellach yn fflatiau moethus o'r enw Hayes Point.

Ffynhonnell y llun, Megan Williams

Roedd Megan Williams o Lanfarian, yn gweithio yn Ysbyty Guys yn Llundain pan ddaeth y Gwasanaeth Iechyd i fodolaeth ar y 5ed o Orffennaf 1948.

"...16 o flynyddoedd ges i yn gweithio i'r cyw-wasanaeth a gyda ni nawr yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 mi rydw i yn edrych nôl gyda balchder a gwên ar fy wyneb ar yr alwedigaeth wnaeth e gynnig i mi," meddai Megan.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Diolch i Mary Johnson am y llun yma o'r babi cyntaf a anwyd yn Ysbyty Llanymddyfri

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Technegydd theatr Gwilym Jones a nyrs theatr Madge Hinder tu allan i Ysbyty'r War Memorial yn y Rhyl yn 1950

Yn 12 oed bu'n rhaid i Margery Williams o Langwnnadl, Llŷn, adael yr ysgol i fynd i weini i Blas Talhenbont. Ers pan oedd yn blentyn roedd â'i bryd ar fod yn nyrs ond â hithau heb addysg uwchradd o gwbl, ni feddyliodd y byddai ganddi siawns o wireddu ei breuddwyd.

Ond daeth ei chyfle pan cafodd le ar gwrs hyfforddi nyrsus yn Ysbyty St. Catherine Penbedw ac yn 1946, cwblhaodd ei chwrs a chymhwyso yn S.R.N (state registered nurse). Arbenigai mewn gwaith theatr, yn cynorthwyo gyda thriniaethau llawfeddygol mewn ysbytai yn Lerpwl a'r cyffiniau ac yn ddiweddarach yn Ysbyty'r War Memorial yn y Rhyl ble y cyfarfu â'i gŵr Trefor Hinder pan oedd yntau'n glaf yno.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

O mam bach! Cafodd y tripledi yma - merched i'r Parch K. J. Francis, Llanystumdwy, a'i wraig - eu geni o fewn 12 munud i'w gilydd yn Ysbyty Bangor yn 1954

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Canu'n iach. Dosbarth canu i blant yn Ysbyty Orthopedig Gobowen, 1954

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau o wasanaeth ambiwlans Dolgellau, 1953

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Diolch i Margaret Rhys-Hughes am y llun yma o nyrsus yn Ysbyty Treforys

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cynnig cysur. Merch sy'n derbyn triniaeth yn Ysbyty Orthopedig Gobowen yn bwydo oen swci, 1954

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Cenedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dathlu priodas aur gyda theulu a ffrindiau yn Ysbyty Gobowen, 1954

Ffynhonnell y llun, Iris Williams
Disgrifiad o’r llun,

Iris Williams yn defnyddio'r cyfrifiadur cyntaf i gyrraedd ward Owain Glyndŵr, Ysbyty Bronglais, Aberystwyth

Ffynhonnell y llun, Iris Williams
Disgrifiad o’r llun,

Iris Williams a'i chydweithwyr ar ward Owain Glyndwr, Ysbyty Bronglais

Ffynhonnell y llun, Linda Jones
Disgrifiad o’r llun,

Diolch i Linda Jones am rannu'r llun yma o Ysbyty Glangwili

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Staff ward C2 yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, yn 1994. Mae Lucy Davies, a rannodd y llun, yn y blaen ar y dde.

Hefyd o ddiddordeb