System Credyd Cynhwysol yn 'warthus ac yn wirion'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cael eu cyhuddo o fod allan o gysylltiad drwy feddwl fod "y rhan fwyaf o bobl" sy'n gwneud cais am Credyd Cynhwysol yn gallu gwneud hynny ar-lein.
Roedd yn rhaid i un fenyw o Gasnewydd ddisgwyl misoedd cyn derbyn ei budd-dal cyntaf o ganlyniad i oedi i gael apwyntiad wyneb i wyneb gyda staff.
Mae gweithwyr mewn un o gymdeithasau tai Cymru wedi dweud fod tenantiaid mewn dyled gan nad oes ganddyn nhw gerdyn adnabod debyg i basport neu drwydded yrru er mwyn gwneud cais ar-lein.
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud fod "trefniadau mewn lle" i gefnogi pobl sy'n methu gwneud cais ar-lein.
'Gwarthus a gwirion'
Mae ymgynghorwyr dyledion yn dweud nad ydyn nhw wedi gallu "helpu un person" i wneud cais ar-lein, ac maen nhw'n credu dim ond traean o'r bobl sy'n cwblhau cais ar y we.
Roedd yn amhosib i Jenny Lewis o Gasnewydd wneud cais ar-lein gan ei bod hi erioed wedi bod yn berchen ar basport na thrwydded yrru.
Bu'n rhaid iddi ddisgwyl tair wythnos er mwyn cael apwyntiad personol i wneud cais am fenthyciad brys, wedyn tri mis ar gyfer y taliad cyntaf o'r Credyd Cynhwysol.
Dywedodd Ms Lewis: " Mae'r system yn warthus ac yn wirion, os nad ydych chi'n gallu fforddio i fynd dramor does dim rheswm i chi fod â phasport, os nad ydych chi'n gallu fforddio car, dydych chi ddim am gael trwydded yrru."
Mae'r diffyg ceisiadau ar-lein yn golygu fod niferoedd y bobl sy'n disgwyl apwyntiad wyneb i wyneb yn pentyrru, o ganlyniad i "fwyafrif" sy'n methu gwneud cais ar-lein yn ôl Kath Hopkins sy'n swyddog gyda'r prosiect Moneysaver.
Yn ôl Pennaeth Polisi Sefydliad Joseph Rowntree, Katie Schmuecker, mae'r oedi yn "enghraifft gynnar arall" nad yw'r system yn gweithio.
Mae Rheolwr Rhaglenni a Pholisi Cartrefi Cymunedol Cymru, y corff sy'n cynrychioli cymdeithasau tai yng Nghymru, eisoes wedi dweud nad yw "Credyd Cynhwysol yn addas ar gyfer y bobl fwyaf bregus".
'Gwella bywyd unigolion'
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau eu bod yn gweithio'n agos gyda Gwasanaethau Digidol y Llywodraeth er mwyn sicrhau fod y system sy'n gwirio manylion unigolion, Verify "yn effeithiol ac yn ffordd ddiogel o adnabod person pan maen nhw'n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
"Mewn rhai achosion pan nad yw person yn gallu cadarnhau eu manylion drwy Verify , mae cynlluniau mewn lle i gefnogi'r bobl hynny."
Dywedodd yr adran yn Llywodraeth y DU fod "gwasanaeth am ddim" o'r enw "prove your identity (PYID)" wedi cael ei dreialu ar hyn nifer o safleoedd gyda'r bwriad o gario'r gwasanaeth ymlaen at ddiwedd y flwyddyn.
Ychwanegodd y llefarydd: "Pwrpas Credyd Cynhwysol yw ceisio gwella bywyd unigolion - ac mae'n gweithio. Mae'r bobl sy'n derbyn Credyd Cynhwysol yn dod o hyd i waith yn gynt na'r rheiny sydd ynghlwm a'r hen drefn, yn aros yn hirach mewn gwaith, ac yn cadw mwy o'u cyflogau.
"Rydym wedi lledaenu Credyd Cynhwysol ar hyd y wlad ac rydym wedi gwneud nifer o welliannau, rydym wedi cyflwyno symudiad 100% i gefnogi pobl cyn eu taliad cyntaf, a thynnu'r saith niwrnod o amser aros a chynnwys pythefnos o gymorth tai cartrefi ychwanegol ar gyfer pobl sy'n symud i Gredyd Cynhwysol," meddai.