Rhybuddio pobl rhag nofio â dolffiniaid yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
Dau o bobl yn nofio gyda dolffiniaidFfynhonnell y llun, Jonathan Evans
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mr Edwards roedd nodio gyda'r dolffiniaid yn "hunanol"

Mae rhybudd i bobl gadw eu pellter oddi wrth ddolffiniaid gwyllt oddi ar arfordir Ceredigion.

Daw'r rhybudd ar ôl i Jonathan Evans o Dolphin Spotting Boat Trips weld dynes yn nofio gyda dau ddolffin ger Ynys Lochtyn ym Mae Ceredigion ddiwedd mis Mai.

Cafodd ymddygiad y ddynes ei ddisgrifio fel "hunanol" a "didrugaredd" gan Mr Edwards.

Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud y dylai pobl fwynhau gweithgareddau arfordirol, ond gwneud ymdrech i beidio ag aflonyddu bywyd gwyllt.

100 metr i ffwrdd

Mae cod ymddygiad morol Ceredigion yn gofyn i bobl aros hyd at 100 metr i ffwrdd o ddolffiniaid.

Yn ôl Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 mae hi'n drosedd i darfu ar greaduriaid o'r fath yn bwrpasol.

Ffynhonnell y llun, Jonathan Evans

Roedd Mr Evans wedi tynnu lluniau o'r digwyddiad, cyn cysylltu gyda'r Swyddog Ardaloedd Morol Gwarchodedig lleol.

"Teulu gyda dau kayak oedd yno - mam, tad, bachgen a merch fach - roedden nhw droedfeddi i ffwrdd o'r dolffiniaid," meddai.

Yn ôl Mr Evans roedd y fam yn dilyn y dolffiniaid, ac roedd rhaid iddo ymyrryd cyn bod y ferch yn ymuno â hi yn y dŵr.

"Roedd rhaid i ni egluro eu bod nhw mewn man gwarchodedig a'i bod hi'n anghyfreithlon i nofio gyda'r dolffiniaid."

Mwynhau o bellter

Mae llefarydd ar ran y Sea Watch Foundation yn annog pobl i beidio a dynesu at ddolffiniaid.

Meddai: "Tra bod dolffiniaid yn anifeiliaid carismatig, maen nhw hefyd yn ysglyfaethwyr mawr, pwerus sydd â'r gallu i anafu rhywun yn ddifrifol.

"Gall ymyrryd cyson gyda'r dolffiniaid arwain at newidiadau ymddygiad yn y tymor hir, a fyddai'n gallu effeithio ar y boblogaeth yn ei chyfanrwydd."

Dywedodd Rhodri Evans, aelod o gabinet Cyngor Ceredigion eu bod nhw hefyd yn gofyn i bobl fwynhau'r dolffiniaid, a chreaduriaid eraill, o bellter diogel.