Heddwas yn cyfaddef dwyn £30,000 gan glwb athletau ei lu
- Cyhoeddwyd
Mae heddwas gyda Heddlu De Cymru yn wynebu cyfnod dan glo wedi iddo ddwyn dros £30,000 gan glwb athletau ei lu ei hun.
Fe wnaeth y Cwnstabl Justin Lott, 40 o Ben-y-bont, gyfaddef dwyn arian ac offer o'r clwb roedd yn rhedeg gyda'i wraig.
Plediodd yn euog i dri chyhuddiad o ddwyn, gan gynnwys eitemau fel teledu, gliniadur ac arian, o Glwb Athletau Adran Ganolog Heddlu De Cymru.
Cafwyd gwraig Lott, Sharyn - sydd hefyd yn heddwas - yn ddieuog o'r un cyhuddiad wedi i'r achos yn ei herbyn gael ei ollwng yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.
Fe ddigwyddodd y troseddau rhwng Chwefror 2012 ac Ebrill 2016, tra roedd Lott yn ysgrifennydd y clwb.
Dywedodd llefarydd o Heddlu De Cymru bod Justin Lott wedi cael ei ddiswyddo gan y llu yn dilyn gwrandawiad disgyblu mewnol.
Ychwanegodd bod ei wraig yn parhau i weithio fel cwnstabl, ond y gallai hi hefyd wynebu gwrandawiad yn y dyfodol.
Fe wnaeth y Barnwr Jeremy Jenkins rybuddio Lott ddydd Llun bod "pob opsiwn yn agored o ran dedfrydu".
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, a bydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Medi.