Y Llywydd ddim am fynychu digwyddiad ailenwi pont
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Elin Jones ddiolch am y gwahoddiad, ond ei wrthod
Mae Llywydd y Cynulliad wedi gwrthod gwahoddiad i fynychu seremoni i nodi ailenwi Ail Bont Hafren ar ôl Tywysog Cymru.
Dywedodd Elin Jones ei bod yn "benderfyniad diddorol" gan Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns i gynnal y digwyddiad yn fuan wedi i Lywodraeth y DU wrthod morlyn llanw Bae Abertawe.
Bydd y digwyddiad i nodi'r ailenwi yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf.
"Diolch am y gwahoddiad. Fyddai ddim yno," meddai Ms Jones ar Twitter.

Bydd digwyddiad i nodi ailenwi'r bont yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf
Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu newid enw Ail Bont Hafren i Bont Tywysog Cymru.
Fe wnaeth y cyhoeddiad arwain at feirniadaeth hallt, gyda nifer yn anhapus nad oedd ymgynghoriad cyn y penderfyniad.
Cafodd deiseb oedd yn gwrthwynebu'r cynllun ei harwyddo gan 38,000 o bobl.
Daeth i'r amlwg ym mis Mai bod y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cefnogi'r penderfyniad i ailenwi'r bont cyn y cyhoeddiad.
Dywedodd llefarydd o Swyddfa Cymru bod Ms Jones wedi cael ei gwahodd "yn ei rôl fel Llywydd i ddigwyddiad i nodi ailenwi'r bont".
Ond gwadu hynny wnaeth Ms Jones ar Twitter gan ddweud bod y gwahoddiad wedi ei yrru at "Elin Jones AC, nid Llywydd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd14 Mai 2018
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2018