Caniatad cynllunio i brosiect marina Aberdaugleddau
- Cyhoeddwyd
Mae caniatâd cynllunio amlinellol wedi ei gymeradwyo ar gyfer prosiect £70m i ailddatblygu safle marina Aberdaugleddau.
Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau sy'n gyfrifol am y cynllun sy'n cynnwys ychwanegu hyd at 190 o randai, gwestai a bwytai newydd yn ogystal â chyfleuster hamdden dan do ar gyfer yr ardal.
Ar hyn o bryd mae amcangyfrif y bydd y prosiect yn arwain at greu 610 o swyddi newydd llawn amser, yn ogystal â denu £9m ychwanegol o wariant ymwelwyr.
Cafodd y caniatâd cynllunio ei gymeradwyo gan Gyngor Sir Benfro cyn belled a bod y prosiect yn cyd-fynd â rhai amodau.
'600 o swyddi newydd'
Mae porthladd Aberdaugleddau eisoes yn gyfrifol am 20% o fasnach forol Prydain mewn olew a nwy, ac yn cyflogi dros 4,000 o bobl.
Yn 2017 disgynnodd elw'r Awdurdod Porthladd hyd at £3m, rhywbeth a chafodd ei feio ar broblemau yn y diwydiant nwyon naturiol.
Yn eu hadroddiad blynyddol yn 2017, dywedodd yr awdurdod: "Mae'r porthladd yn creu rhywle dymunol i fyw, i weithio ac i chwarae.
"Bydd yn cyfuno profiadau hamdden arloesol, byw yn glyfar a safleoedd manwerthu llewyrchus gan greu bron i 600 swydd newydd yn Aberdaugleddau."
Mae elfen gyntaf y gwaith adeiladu bellach wedi dechrau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2018