Gareth Bennett i ymgeisio i fod yn arweinydd grŵp UKIP

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bennett

Mae'r Aelod Cynulliad dadleuol Gareth Bennett wedi cyhoeddi y bydd yn ymgeisio i fod yn arweinydd nesaf UKIP yng Nghymru.

Wrth alw am refferendwm newydd, dywedodd y byddai'n ymgyrchu dros ddiddymu'r Cynulliad.

Mr Bennett yw'r ail i gyhoeddi y bydd yn ymgeisio, yn dilyn cadarnhad y bydd y cyn-arweinydd yn y Cynulliad, Neil Hamilton, hefyd yn ymgeisio.

Nid yw'r arweinydd presennol, Caroline Jones, wedi cyhoeddi ei bwriad i ymgeisio hyd yma.

'Polisïau radical'

Mewn datganiad ddydd Mawrth dywedodd Mr Bennett y byddai'n ceisio delio â "chostau cynyddol" darpariaeth yr iaith Gymraeg.

"Fi yw'r unig ymgeisydd gyda pholisïau radical, mae'r gweddill yn cynnig pethau sy'n debyg iawn i'r hyn sydd gan y pleidiau prif ffrwd."

Mae'r AC yn credu y dylai pobl Cymru gael dweud eu dweud am ba mor ddefnyddiol yw'r Cynulliad mewn refferendwm.

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni ystyried os ydy taflu miliynau o bunnau o bres trethdalwyr tuag at gyflawni targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg wir am gyflawni unrhyw beth.

"Dylwn ni amddiffyn yr iaith Gymraeg yn y cadarnleoedd yn ardaloedd y gorllewin."

Hamilton
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil Hamilton eisoes wedi ymuno a'r ras tra bod disgwyl i Caroline Jones ddechrau ei hymgyrch yn fuan

Daw'r cyhoeddiad dim ond wythnos ar ôl i'r AC annibynnol Mandy Jones gael ei diarddel o UKIP ar ôl iddi feirniadu Mr Hamilton.

Cafodd ei chyhuddo o wneud niwed i'r blaid ar ôl dweud fod Mr Hamilton yn anaddas ar gyfer cael ei benodi'n un o gomisiynwyr y Cynulliad.

Mae disgwyl i'r bleidlais ar gyfer yr arweinydd nesaf gael ei chynnal ym mis Gorffennaf.