Diarddel yr AC annibynnol Mandy Jones o blaid UKIP
- Cyhoeddwyd
Mae AC annibynnol rhanbarth Gogledd Cymru, Mandy Jones wedi cael ei diarddel o UKIP ar ôl iddi feirniadu cyn-arweinydd y blaid yn y Cynulliad, Neil Hamilton.
Fe gafodd Ms Jones ei hatal rhag ymuno â grŵp y blaid ddechrau'r flwyddyn ar ôl ymuno â'r Cynulliad wedi ymddiswyddiad Nathan Gill.
Ond mae nawr wedi cael ei chyhuddo o wneud niwed i'r blaid ar ôl dweud fod Mr Hamilton yn anaddas ar gyfer cael ei benodi'n un o gomisiynwyr y Cynulliad.
Dywedodd llefarydd ar ran Ms Jones nad yw'n edifar ynglŷn â'r hyn a ddywedodd.
Roedd UKIP wedi enwebu Mr Hamilton i gynrychioli'r blaid fel aelod o'r corff sy'n goruchwylio gweinyddiaeth y sefydliad.
Ond mewn cam anarferol, fe gafodd yr enwebiad ei wrthod gan ACau - 31 i 17 - mewn pleidlais a gafodd ei gynnal yn sgil gwrthwynebiad Ms Jones i'r penodiad.
'Mae daer angen undod'
Dywedodd fod yr enwebiad yn amhriodol ar ôl i Mr Hamilton ymatal ei bleidlais yn hytrach na chefnogi polisi i fynd i'r afael ag aflonyddu o fewn y Cynulliad.
Mae ysgrifennydd UKIP, Adam Richardson yn dweud fod araith Ms Jones yn "niweidiol i Mr Hamilton ac i'r blaid ehangach yng Nghymru, sydd daer angen undod".
Roedd y cyhoeddusrwydd o ganlyniad, meddai yn "ddi-angen ac yn niweidiol eithriadol mewn cyfnod tymhestlog".
Mae Ms Jones nawr yn wynebu gwrandawiad disgyblu brys.
Dywedodd llefarydd ar ran Ms Jones ei bod "yn glynu wrth yr hyn a ddywedodd" ac "yn edifar am ddim".
Ychwanegodd: "Fe wnaeth y mwyafrif gytuno â hi. Dyw UKIP heb golli dim - maen nhw ond angen cynnig ymgeisydd priodol ar gyfer y gwaith."
Dewis arweinydd Cynulliad
Yn y cyfamser daeth cadarnhad y bydd pleidlais o aelodau UKIP i ddewis arweinydd y grŵp yn y Cynulliad.
Dywedodd yr arweinydd presennol, Caroline Jones, ei bod yn gobeithio ennill y bleidlais, fydd yn digwydd ddiwedd Gorffennaf.
Ychwanegodd ei bod yn "wyneb da i UKIP yng Nghymru a dwi'n gobeithio bod yr aelodau'n cytuno".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2017