Cwymp sylweddol yng ngwerthiant llyfrau Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y llyfrau Cymraeg sy'n cael eu gwerthu gan y Cyngor Llyfrau ar ei lefel isaf ers chwe blynedd, yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru Fyw.
Ers 2010/11, mae gwerthiant llyfrau Cymraeg i blant lawr 16.4% - o 234,000 i 196,000 - tra bod cynnydd o 62.6% yng ngwerthiant llyfrau Saesneg i blant, o 22,000 i 36,000, yn yr un cyfnod.
Mae nifer y llyfrau Cymraeg i oedolion gafodd eu gwerthu lawr o 145,000 i 118,000, sy'n ostyngiad o 18.5%, er bod graddfa'r cwymp yn is yn Saesneg - o 152,000 i 130,000 (-14.4%).
Mae'r ffigyrau yn seiliedig ar werthiant canolfan ddosbarthu'r mudiad, sydd ddim yn derbyn unrhyw gymorth o'r pwrs cyhoeddus, er bod y Cyngor yn gorff sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
'Wastad yn frwydr i werthu'
Yn ôl Arwel Jones, pennaeth grantiau'r Cyngor Llyfrau, mae gwerthiant llyfrau Cymraeg yn "rhyfeddol o sefydlog dan yr amgylchiadau".
"Mae isio bod yn ofalus efo'r ffigyrau," meddai.
"Yn achlysurol mae arian yn dod gan y llywodraeth i brynu llyfrau i ysgolion. Dydyn nhw ddim yn rheolaidd neu'n dod bob blwyddyn.
"Fyswn i'n cyfaddef ei bod hi'n gyfnod digon anodd. Mae siopau llyfrau annibynnol yn stryglo, ambell un yn cau.
"Mae gwerthiant i lyfrgelloedd lawr - math o lefydd lle fydda stoc fawr yn mynd iddyn nhw - ac mae pob un yn gwneud gwahaniaeth pan ti'n sôn am lyfrau plant Cymraeg."
Cliciwch yma i gael darlun fwy gweledol o'r holl ffigyrau.
"Mae nifer o gynlluniau hybu darllen wedi dod i ben ac yn y pen draw mae o'n taro ar y rhifau yna," meddai.
"Pan mae gen ti werthwyr mawr yn tynnu allan mae'n cael effaith. Mae hi wastad yn frwydr i werthu."
Ychwanegodd bod y corff wedi comisiynu'r Dr Siwan Rosser i edrych ar y farchnad lyfrau i blant a phobl ifanc yn benodol, a bod disgwyl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn.
'Dal ein tir'
Dywedodd Mr Jones bod yna enghreifftiau ble mae llyfrau yn "ffynnu".
"Mae Galar a Fi [gan Esyllt Maelor] yn enghraifft dda lle mae cyhoeddwr yn cymryd 'chydig bach o risg - does 'na ddim byd tebyg iddo fo - ond mae'n dal i werthu ar ei drydydd argraffiad," meddai.
"Mae'n enghraifft o farchnata da, mae'n enghraifft o gyhoeddwr yn mentro ac yn llwyddo.
"Mae 'na wasanaethau craidd, amlwg sy'n mynd ar ei lawr ac yn prynu llai o stoc - mae hynny'n siŵr o fod yn cyfrannu.
"Ond mae gwerthiant llyfrau yn rhyfeddol o sefydlog dan yr amgylchiadau."
Efallai o ddiddordeb...
Dywedodd Garmon Gruffudd, rheolwr gyfarwyddwr gwasg Y Lolfa, bod eu ffigyrau gwerthiant nhw wedi "aros yn gyson", a bod eleni wedi bod yn flwyddyn dda.
"Mae 'na alw mawr o hyd am y llyfrau iawn, ond yn sicr ni wedi taro deuddeg efo llyfrau fel Galar a Fi a Syllu ar walia'," meddai.
"Ma' llai o arian yn gyffredinol yn sgil llymder a thoriadau, mae'n bwrw pawb - llyfrgelloedd, ysgolion, mae llawer o ganolfannau ymwelwyr wedi cau.
"Falle bod yr hinsawdd yn fwy caled o ran gwerthu, ond ni'n dal ein tir ar hyn o bryd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2017
- Cyhoeddwyd30 Medi 2017
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2015