Clwb Pêl-droed Abertawe'n diswyddo eu tîm sgowtio
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi diswyddo eu tîm sgowtio, gan ddweud mai'r rheolwr newydd Graham Potter fydd yn dewis pa chwaraewyr i'w harwyddo.
Mae is-reolwr Potter yn Ostersunds, Kyle Macauley, wedi'i benodi'n bennaeth recriwtio'r clwb, gan gymryd lle Dave Leadbeater.
Fe wnaeth perchnogion Abertawe - Steve Kaplan a Jason Levien - a'r cadeirydd Huw Jenkins gadarnhau'r newidiadau mewn datganiad ddydd Iau.
"Graham fydd yn penderfynu pa elfennau o'r tîm neu'r garfan sydd angen cryfhau," meddai'r datganiad.
"Bydd Kyle yn dod o hyd i chwaraewyr ac yn astudio'r holl wybodaeth sydd ar gael cyn darparu rhestr o chwaraewyr i geisio mynd ar eu hôl."
Bydd sgowt recriwtio technegol y clwb, Ian Henderson, ei ddirprwy Ian Roscow a dau sgowt arall - y cyn-reolwr Brian Flynn a chyn-golwr yr Elyrch Gerhard Tremmel - oll yn gadael.
Er bod rhai o'r rhai sy'n gadael wedi ymuno'n ddiweddar, mae Leadbeater wedi bod â'r clwb ers 2010 tra bod Henderson wedi ymuno yn 2012.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2018