Abertawe yn penodi Graham Potter fel rheolwr
- Cyhoeddwyd
Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau fod Graham Potter wedi cael ei benodi yn rheolwr newydd ar y clwb.
Mae Potter, sy'n 43 oed, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r Elyrch ar ôl gadael ei gyn glwb Ostersunds.
Daeth Abertawe i gytundeb am faint o arian y bydd y clwb o Sweden yn ei dderbyn yr wythnos ddiwethaf, yn ogystal â chytuno ar delerau personol gyda Potter.
Bydd dau aelod o staff cynorthwyol Potter yn Ostersunds, Billy Reid a Kyle Macauley, hefyd yn ymuno â thîm hyfforddi Abertawe.
Mae'r tri wedi cwblhau'r holl waith papur a nawr yn gallu dechrau'r gwaith paratoi ar gyfer y tymor nesaf, lle fydd yr Elyrch yn dychwelyd i'r bencampwriaeth.
Mae Potter yn ymuno gydag Abertawe ar ôl treulio saith mlynedd yn hyfforddi yn Sweden.
Llwyddodd i ennill dau ddyrchafiad yn ei ddau dymor cyntaf gyda'r clwb, cyn cyrraedd y brif adran yn 2016.
Yn ogystal ag ennill y gwpan yn Sweden, fe arweiniodd Ostersunds drwy eu rhediad da yng Nghynghrair Europa y tymor diwethaf, cyn iddyn nhw gael eu trechu gan Arsenal ar gyfanswm goliau er iddyn nhw guro Arsenal yn Llundain.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd23 Mai 2018
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018