Pryder Cymry am ad-drefnu gwasanaethau ysbyty dros y ffin
- Cyhoeddwyd
Mae dros 100 o bobl wedi bod yn Y Drenewydd yn trafod trawsnewid gwasanaethau iechyd yn Sir Amwythig, wrth i reolwyr ystyried newidiadau.
Mae 70,000 o bobl sy'n byw yn y canolbarth yn defnyddio ysbytai dros y ffin, ac mae tua 10% o gleifion sy'n cael triniaeth yn Amwythig a Telford bob blwyddyn yn dod o Gymru.
O'r ddau ysbyty yn yr ardal - Ysbyty Brenhinol Amwythig ac Ysbyty'r Dywysoges Frenhinol yn Telford - y bwriad yw ond cynnig gwasanaethau brys mewn un.
Petai gofal brys ond yn cael ei gynnig yn Telford, byddai'n golygu siwrne hirach i gleifion o Gymru, rhywbeth fyddai'n "gryn bryder" yn ôl cynghorydd lleol.
Mae Bwrdd Iechyd Powys yn dweud ei fod yn "bwysig i bobl roi eu barn am y newidiadau" yn ystod yr ymgynghoriad.
Grwpiau comisiynu clinigol yn Amwythig, Telford a Wrekin sy'n arwain yr ymgynghoriad.
Mae dwy opsiwn gerbron y cyhoedd:
Y Safle Gofal Brys yn Amwythig; gofal wedi'i gynllunio yn Telford.
Y Safle Gofal Brys yn Telford; gofal wedi'i gynllunio yn Amwythig.
Mae penaethiaid iechyd yn Sir Amwythig yn ffafrio opsiwn 1 - sydd hefyd yn cael ei groesawu gan bobl yn y canolbarth gan fod Amwythig yn agosach.
'Andros o bwysig'
Cafodd Beryl Vaughan ei rhuthro i Ysbyty Amwythig ar ôl dioddef ymlediad (aneurism) ym mis Medi.
Mae'n byw ger Llanerfyl, 45 munud o Amwythig. Mae Telford 18 milltir yn bellach eto.
Dywedodd bod Ysbyty Amwythig yn "andros o bwysig" gan fod cynifer o bobl yn byw yng nghefn gwlad.
"Mae 'na gymaint yn mynd i'r Amwythig, a mae'n rhaid iddyn nhw sylweddoli y cyfran helaeth o'r ardal yma, a peth o'r gogledd a chydig bach i lawr i'r de, i gyd yn mynd i Amwythig."
Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan o Blaid Cymru bod "pobl yn awyddus iawn" bod gwasanaethau brys yn parhau yn Amwythig.
"Mi fydde Telford yn bell iawn, iawn o'r rhan hyn o'r byd, ac felly mi fydde hynny'n gryn bryder i ddweud y gwir."
Dechreuodd yr ymgynghoriad ddiwedd mis Mai ond yr arddangosfa yn y Drenewydd ddydd Iau oedd yr unig ddigwyddiad mawr ym Mhowys i roi cyfle i'r cyhoedd gwrdd â doctoriaid a staff meddygol eraill i drafod y newidiadau.
Dywedodd Hayley Thomas o Fwrdd Iechyd Powys ei fod yn "bwysig i bobl roi eu barn am y newidiadau".
Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ar 4 Medi.