Cynghrair Europa: Noson gymysg i'r Derwyddon a'r Bala
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n noson gymysg i dimau pêl-droed Cymru yng nghymal cyntaf rownd cynragbrofol Cynghrair Europa.
Methodd Derwyddon Cefn â sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn Ewrop wedi gêm gyfartal 1-1 yn erbyn clwb Trakai o Lithwania.
Fe roddodd James Davies y Derwyddon ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner yn stadiwm y Seintiau Newydd yng Nghroesoswallt.
Ond fe ildiodd tîm Huw Griffiths y fantais wedi i Donatas Kazlauskas unioni'r sgôr gyda phum munud o'r gêm yn weddill.
Cweir i'r Bala
Mae'r Bala'n wynebu talcen caled yn yr ail gymal ar ôl teithio i wynebu'r tîm o San Marino, Tre Fiori.
3-0 oedd y sgôr yn Stadio Tullo Morgagni, gyda'r gôl gyntaf yn dod wedi i Anthony Miley roi'r bêl yn ei rwyd ei hun.
Giacomo Pracucci a Mirco Vassallo oedd y sgorwyr eraill.
Bu'n rhaid stopio'r gêm am gyfnod wedi i'r llifoleuadau fethu, ac fe gafodd Pracucci gardyn coch wedi 80 o funudau.
Mae'r gemau ail gymal yn cael eu cynnal ddydd Iau 5 Gorffennaf.