Galw am broses dendro wedi penderfyniad morlyn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae datblygwyr sy'n gobeithio cael cefnogaeth Llywodraeth y DU i godi pwerdai ynni llanw yn dweud eu bod am barhau â'u cynlluniau, er gwaethaf penderfyniad i wrthod cynllun arloesol morlyn Bae Abertawe.
Wedi i'r Ysgrifennydd Ynni a Busnes, Greg Clark ddweud ei fod yn "frwd" ynghylch y dechnoleg pe bai modd rhoi gwerth am arian, mae un cwmni'n galw am sefydlu proses dendro gystadleuol.
Mae datblygwyr morlyn Abertawe, Tidal Lagoon Power's (TLP) yn ystyried eu camau nesaf wedi i'r cynllun £1.3bn gael ei wrthod.
Pe byddai wedi cael ei gymeradwyo, fe fyddai wedi profi'r dechnoleg gan arwain at forlynnoedd mwy nerthol, gan gynnwys rhai yng Nghaerdydd, Casnewydd a Bae Colwyn.
Roedd adolygiad annibynnol wedi argymell codi'r morlyn ond dywedodd Llywodraeth y DU fod y cynllun yn rhy ddrud.
Mae datblygwyr eraill yn dweud eu bod yn cadw golwg manwl ar y sefyllfa.
Buddiannau cost-effeithiol
Dywedodd Henry Dixon, cadeirydd North Wales Tidal Energy (NWTE) fod penderfyniad y llywodraeth yn un "anghywir" ond na fydd yn atal y cwmni rhag "parhau i ddatblygu a hybu" eu cynlluniau nhw.
Mae'n dweud y byddai cynllun NWTE i godi lagŵn gwerth £7bn rhwng Llandudno a Thalacre yn Sir Y Fflint yn fwy na chynllun Abertawe, yn cynhyrchu mwy o ynni a refeniw, ac yn fanteisiol o ran atal llifogydd a gwarchod yr arfordir.
Mae'r cwmni, meddai Mr Dixon, yn croesawu gwahoddiad Mr Clark i drafod gyda'i adran ac i amlygu'r "buddiannau cost-effeithiol niferus... i ogledd Cymru a gweddill y wlad".
Yn ôl gwrthwynebydd blaenllaw i gynlluniau TLP, mae gofyn i weinidogion osod amserlen i ddatblygwyr gynnig prosiectau, yn y gobaith y byddai costau'n gostwng o ganlyniad cystadleuaeth.
Mae Dale Vince - sylfaenydd Ecotricity, un o ddarparwyr ynni adnewyddadwy mwyaf y DU - yn credu y gallen nhw godi morlynnoedd rhatach yn Aber Solway, ar y ffin rhwng Cumbria a'r Alban. Yn wahanol i gynllun TLP, fe fyddai eu lagŵns ymhell o'r lan.
Dywedodd Mr Vince bod cost cynhyrchu ynni o ffermydd gwynt yn y môr wedi haneru yn y tair blynedd diwethaf wrth i gwmnïau gystadlu am nawdd y llywodraeth trwy'r broses 'Contracts For Difference', ac mae'n galw am gytundebau tebyg yn achos morlynnoedd.
Mae'n gobeithio y byddai proses dendro yn arwain at "bris y byddai'r llywodraeth yn fodlon talu am lagŵns, a fyddai'n llawer is na phris Bae Abertawe."
'Penderfynol'
Dywedodd prif weithredwr TLP, Mark Shorrock, fod y cwmni a'u cefnogwyr yn "benderfynol" o wireddu cynllun Bae Abertawe ac yn dechrau edrych ar ffyrdd gwahanol o wneud hynny.
Yn ôl Shea Buckland-Jones o'r Sefydliad Materion Cymreig, mae "cyfle anferthol" wedi'i golli, a bod angen y cymysgedd ehangaf bosib o ynni adnewyddadwy i ddiwallu anghenion Cymru yn y dyfodol.
Eglurdeb gan Lywodraeth y DU sydd angen bellach, medd David Jones, cyfarwyddwr prosiect gyda chynrychiolwyr y sector, Ynni Morol Cymru.
"Bydd ynni morol yn dilyn esiampl gostyngiad cost ynni gwynt yn y môr, a bydd cwmnïau a chymunedau'n elwa," meddai.
Dywedodd Mr Clark wrth BBC Cymru y byddai'n parhau i ariannu ymchwil i dechnolegau adnewyddadwy, a'i fod yn barod i wrando ar syniadau da.
"Mae gyda ni gyfrifoldeb i sicrhau nad ydy biliau defnyddwyr a threthdalwyr yn codi'n ddychrynllyd," meddai.
"Rydym eisiau cael y technolegau yma i lefel gystadleuol ac rydym yn frwd ynglŷn â'u cyflwyno pan gyrhaeddan nhw'r lefel yna."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2018