Cadarnhau cytundeb ThyssenKrupp a Tata
- Cyhoeddwyd
Daeth cadarnhad y bydd gwaith dur Port Talbot yn eiddo i ail gwmni dur mwya Ewrop, wedi i gwmni ThyssenKrupp gytuno i uno â Tata.
Roedd trafodaethau wedi bod ar y gweill rhwng y ddau gwmi ers dros flwyddyn.
Mae'r cytundeb yn golygu y bydd safleoedd Tata yn y DU yn dod yn rhan o fenter ar draws Ewrop fydd a gwerthiant blynyddol o tua £13bn.
Bydd cynlluniau i ymestyn oes ffwrnais rhif 5 ym Mhort Talbot yn mynd eu blaen fel rhan o'r cytundeb.
Rhagor i ddilyn