Uno Tata yn 'rhoi mwy o sicrwydd' i weithwyr dur
- Cyhoeddwyd
Bydd penderfyniad y cwmnïau dur Tata a Thyssenkrupp i uno yn creu mwy o sicrwydd i weithwyr, yn ôl penaethiaid y ddau gwmni mewn cynhadledd newyddion ym Mrwsel.
Maen nhw'n dweud iddi gymryd dwy flynedd i ddod i gytundeb oherwydd doedden nhw heb baratoi ar gyfer Brexit.
Roedd yna hefyd newidiadau o fewn arweinyddiaeth Tata, sy'n cyflogi 6,250 o weithwyr yng Nghymru.
Mae'r penderfyniad wedi cael ei groesawu gan undebau.
O ganlyniad i uno, medd y penaethiaid, bydd yn bosib bod yn fwy cystadleuol mewn cyfnod lle mae mwy o ddur yn cael ei gynhyrchu ar draws y byd nag sydd angen.
Hefyd mae'r diwydiant yn wynebu tollau o 25% wrth fasnachu yn Unol Daleithiau America.
Dywedodd Tata ei fod yn rhy gynnar i wybod faint o effaith gaiff Brexit ar y cwmni newydd, ond bydd y strwythur newydd yn cynnig mwy o opsiynau yn y dyfodol.
Mae'r cwmni hefyd yn parhau â'r bwriad, fel rhan o adolygiad busnes, i werthu gwaith dur trydanol yng Nghasnewydd, sy'n cyflogi 350 o bobl.
Mae undebau'n pwyso am ailystyried, ond fe fyddai maint gweithlu Tata'n gostwng o ganlyniad i'r gwerthiant, medd y rheolwyr, ac fe fyddai hynny'n lleihau nifer y diswyddiadau posib wrth uno â Thyssenkrupp.
Dywedodd Bimlendra Jha, prif weithredwr Tata Steel UK wrth BBC Cymru fod y penderfyniad yn "newyddion da iawn" i ffatrïoedd dur ar draws y DU, gyda dim diswyddiadau gorfodol tan o leiaf 2026 ac ymroddiad i wneud gwaith adnewyddu sylweddol i'r ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot.
Fe fydd y cwmnïau'n ymateb "un cam ar y tro" mewn perthynas â Brexit, meddai.
Yn ôl prif weithredwr ThyssenKrupp, Heinrich Hiesinger dyw'r cyflenwad dur yn Ewrop ddim yn cyfateb i'r galw, gan roi "pwysau sylweddol ar ein diwydiant", ac mae aros yn gystadleuol yn allweddol.
Dywedodd ei fod yn ddiolchgar i'r gweithlu a'u cynrychiolwyr am helpu i ddod o hyd o atebion ymarferol, ac y byddai llwyddiant y cwmni newydd yn "dibynnu'n drwm ar gyfraniad a chryfderau" eu gweithwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd8 Mai 2018
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2018