Y chwaraewyr â gwaed Cymreig sy'n cystadlu yn SW19
- Cyhoeddwyd
I'r Alban, mae haf go dawel o'u blaenau. Dydyn nhw ddim yng nghanol hwyl y bêl gron yn Rwsia, a bellach mae un o'u meibion enwoca' - Andy Murray - wedi tynnu'n ôl o bencampwriaeth Wimbledon.
Rydym ni fel Cymry yn hen gyfarwydd â sefyllfa'r honno. 1958 oedd y tro dwetha' i'r Crysau Cochion gyrraedd Cwpan y Byd - a'r tro dwethaf i Gymro neu Gymraes ei gwneud hi i gyrtiau SW19? Rebecca Llywelyn yn 2003, ond colli yn rownd gynta'r gystadleuaeth oedd ei hanes hi.
Yn y 15 mlynedd ers hynny, mae 'na ambell i lygedyn o obaith wedi bod. Josh Milton ac Evan Hoyt oedd yr agosaf i wneud eu marc ar gyrtiau enwocaf Llundain ond boddi wrth ymyl y lan oedd eu hanes nhw yn y rowndiau rhagbrofol, gan fethu â bwrw'r un bêl gystadleuol yn erbyn cewri fel Federer neu Nadal.
Ond eleni mae 'na ddau sydd â gwaed Cymreig yn eu gwythiennau yn cystadlu am deitl y dynion, ac mae'r ddau yn enwau cyfarwydd i gefnogwyr y gamp. Kyle Edmund - chwaraewr gorau Prydain erbyn hyn - a'i ddirprwy, Cameron Norrie.
Blwyddyn i'w chofio
Er i Edmund gael ei eni yn Johannesburg yn Ne Affrica, mae ei dad, Stephen, o Gymru yn wreiddiol gyda pherthnasau yn dal i fyw yn y de.
Yn absenoldeb Murray dros y 12 mis dwethaf, mae e wedi camu i'r adwy. Ac am flwyddyn mae 'di bod iddo - cyrrraedd yr 20 ucha' yn y byd, yn ogystal â rownd gynderfynol Pencampwriaeth Agored Awstralia.
Mae ei ymgyrch yn Wimbledon yn dechrau ddydd Mawrth yn erbyn Alex Bolt o Awstralia, ac mae Henman Hill neu Murray Mound yn siŵr o droi'n "Kyle's Common" am gyfnod. Pythefnos os eith pethau o'i blaid.
Cyn hynny, Cameron Norrie sy'n cael ei gyfle i serennu. Gyda'i fam Helen yn dod o Gaerdydd a'i dad yn Albanwr, mae'r Celtiaid yn brwydro drosto ac ar ras i'w hawlio - yn enwedig os daw llwyddiant!
Aljaz Bedene yw'r cyntaf i wynebu Cameron. Gyda'r ddau yn agos iawn ar restr detholion y byd dyma ei gyfle i gyrraedd ail rownd Wimbledon am y tro cyntaf yn ei yrfa.
Mae 'na bosibilrwydd y bydd Cymro arall yn SW19 hefyd cyn i'r pythefnos o chwarae ddod i ben, sef y bachgen ysgol 17 oed o Gaerdydd, James Story.
Fe allai gael cynnig lle yn y gystadleuaeth i chwaraewyr ifanc ar ôl gwneud ei farc yn ddiweddar. Fe gipiodd fedalau arian ac efydd yng Ngemau'r Gymanwlad Ieuenctid yn y Bahamas y llynedd.
Ond am y tro, mae'r gobeithion ar ysgwyddau'r ddau sydd â'u rhieni yn hanu o Gymru - Cameron a Kyle!