Pryder am gefnogaeth addysg plant y gymuned sipsi
- Cyhoeddwyd
Fe allai plant o'r gymuned sipsi a theithwyr gael eu tynnu o ysgolion gan eu rhieni os yw gwasanaethau cefnogol arbenigol yn cael eu torri, yn ôl elusen.
Mae'r teuluoedd yn dibynnu ar y gwasanaethau i gadw eu plant mewn addysg prif ffrwd yn ôl 'Tros Gynnal Plant', sy'n cynnig llais a chefnogaeth i deuluoedd a phlant sipsiwn a theithwyr.
Yn ôl Caramia, sy'n Sipsi Romani, mi fyddai ei haddysg yn "disgyn yn ôl 30 mlynedd" heb y gefnogaeth.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi "gwrando ar y pryderon a bod cyllid dros dro mewn lle fydd yn para dwy flynedd."
Yn 2014 roedd sawl grant gwahanol gan Lywodraeth Cymru i gynghorau ar gyfer pwrpas penodol wedi'u huno i greu un grant mwy o'r enw Grant Gwella Addysg (EIG)
Bellach mae'r EIG wedi cael ei dorri o leiaf £13m ac mae cynghorau yn rhydd i wario'r arian ar beth bynnag maen nhw'n credu sy'n addas.
O ganlyniad, mae rhai grwpiau ethnig lleiafrifol yn pryderu am y posibilrwydd o golli'r gefnogaeth ychwanegol.
Dywedodd Trudy Aspinwall o elusen Tros Gynnal Blant: "Os na fydd gwasanaethau yn bod sydd wedi'u targedu i gynnig cefnogaeth - yn enwedig i deuluoedd teithwyr - yna ni fydd rhieni yn teimlo'n hyderus fod ysgolion yn deall eu hanghenion a'u diwylliant.
"Yna, dwi'n credu byddan ni'n gweld llai o blant sipsi a theithwyr yn cael mynediad at ysgolion a llefydd mewn colegau, yn enwedig teuluoedd sydd wedi cael profiadau negatif o addysg, a rhai sydd methu darllen eu hunain," meddai.