Ras yr Iaith 2018, yr hiraf eto, i ddechrau yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Ras yr Iaith 2018

Mae Ras yr Iaith 2018 - y llwybr hiraf eto - yn dechrau yn Wrecsam ddydd Mercher cyn teithio ar hyd 15 cymuned ar hyd Cymru.

Mae'r ras gyfnewid sydd â'r bwriad o hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn ehangu eleni, gan ymweld ag ardaloedd yng ngogledd-ddwyrain a de-ddwyrain Cymru am y tro cyntaf.

Sefydlwyd Ras yr Iaith yn 2014 ac fe gynhaliwyd yr ail ras yn 2016 pan roedd y daith o Fangor i Landeilo.

Dywedodd Siôn Jobbins, sefydlydd Ras yr Iaith, ei fod yn "ffordd wych i dynnu pobl at ei gilydd a dathlu ein bod ni yma o hyd!"

Mae'r ras yn seiliedig ar rasys tebyg mewn llefydd fel Gwlad y Basg, Llydaw ac Iwerddon, sydd hefyd yn dathlu a hybu ieithoedd lleiafrifol.

Llwybr y ras:

Wrecsam, Porthaethwy, Bangor, Llanrwst, Machynlleth, Aberystwyth, Hwlffordd, Caerfyrddin, Rhydaman, Llanelli, Ystradgynlais, Pontardawe, Clydach, Porthcawl a Chaerffili.

Ffynhonnell y llun, Mentrau Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Martyn Geraint a phlant o ysgolion Twm o'r Nant a Gwernant yn y seremoni lansio

Ddydd Mawrth cafodd Baton yr Iaith ei orymdeithio o amgylch Eisteddfod Ryngwladol Llangollen fel rhan o'r seremoni lansio.

Mae'r ras yn dechrau am 09:00 ddydd Mercher yn Llwyn Isaf, Wrecsam ac yn gorffen yng Nghaerffili ddeuddydd yn ddiweddarach.

Yn ogystal â dathlu'r Gymraeg ar draws Cymru, mae Ras yr Iaith hefyd yn codi arian ar gyfer hybu'r iaith ar lawr gwlad.

Yn 2016 fe godwyd £14,000 ac fe wnaeth 45 o sefydliadau ar hyd llwybr y ras dderbyn grant o hyd at £750.

Nid ras athletaidd a chystadleuol yw Ras yr Iaith ac mae'r digwyddiad yn agored i bawb, boed yn siaradwyr Cymraeg ai peidio.

Yn ôl Mr Jobbins: "Mae'n amser i garedigion y Gymraeg ddod at ei gilydd, a dangos ychydig o hwyl dros yr iaith."