Trydydd Ras yr Iaith i ymweld ag ardaloedd newydd

  • Cyhoeddwyd
Ras Yr IaithFfynhonnell y llun, Ras Yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Rhedwyr Ras yr Iaith yn Ninbych-y-Pysgod

Mae ras gyfnewid unigryw sy'n hyrwyddo'r Gymraeg yn ehangu eleni gan ymweld am y tro cyntaf â gogledd ddwyrain a de ddwyrain Cymru.

Fe fydd Ras yr Iaith, sy'n cael ei chynnal am y trydydd tro yn 2018, yn cychwyn yn Wrecsam ar 4 Gorffennaf ac yn gorffen yng Nghaerffili ddeuddydd yn ddiweddarach.

Mae'r trefnwyr, Mentrau Iaith Cymru, yn disgrifio'r digwyddiad fel "tridiau llawn rhedeg, sŵn, egni a mwynhâd tra'n dathlu'r Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru".

Dywedodd Owain Gruffydd, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru, eu bod "yn hapus iawn o allu arwain ar y trefniadau er mwyn gwasgaru neges y Ras i lefydd newydd eleni".

Fe gafodd y ras gyntaf ei chynnal ym Mro Ddyfi a Cheredigion yn 2014.

Roedd y llwybr ar gyfer yr ail ras yn 2016 rhwng Bangor a Llandeilo yn 2016 wedi ymestyn i gynnwys 20 o drefi.

'Gwneud gwahaniaeth'

Mae nawdd sy'n cael ei dderbyn ar gyfer cynnal y ras yn cael ei ddosbarthu ar ffurf grantiau i fudiadau amrywiol ar draws Cymru.

Fe wnaeth o gwmpas 45 o fudiadau Cymraeg elwa o ganlyniad i ras 2016.

"Yn 2016 fe godwyd dros £42,000 mewn grantiau er mwyn i fudiadau hyrwyddo'r Gymraeg yn eu hardaloedd," dywedodd Mr Gruffydd.

Ffynhonnell y llun, Ras yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Mae nawdd ar gyfer y ras yn cael ei ddosbarthu i fudiadau sy'n hyrwyddo'r Gymraeg

"Fel rhwydwaith o endidau sy'n bodoli er mwyn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn cymunedau, mae'n bleser gweld y ras yn tyfu pob tro ac yn gallu gwneud gwahaniaeth dros Gymru."

Mae'r ras yn seiliedig ar rasys tebyg mewn llefydd fel Gwlad y Basg, Llydaw ac Iwerddon sy'n anelu at ddod â phobl at ei gilydd i ddathlu a hybu ieithoedd lleiafrifol.

Mae'r digwyddiad yn agored i bawb, boed yn siaradwyr Cymraeg ai peidio, ac mae unigolion, ysgolion, mudiadau a busnesau yn cael eu hannog i gymryd rhan drwy redeg gyda'r baton eu hunain, trwy gefnogi'r rhedwyr ar ochr y ffordd, drwy stiwardio, neu drwy noddi cymal o'r ras.

17 o drefi sy'n rhan o daith eleni:

Wrecsam, Llanrwst, Bangor, Porthaethwy, Machynlleth, Aberystwyth, Hwlffordd, Dinbych-y-Pysgod, Sanclêr, Caerfyrddin, Llanelli, Rhydaman, Ystradgynlais, Clydach, Pontardawe,Porthcawl a Chaerffili.