Capten yn euog o ddynladdiad milwr trwy esgeulustod
- Cyhoeddwyd
Mae capten yn y fyddin wedi ei gael yn euog gan lys milwrol o ddynladdiad trwy esgeulustod ar ôl i filwr gael ei ladd mewn ymarfer saethu yn Sir Benfro.
Cafwyd y Capten Jonathan Price, 32, yn euog gan y llys yn dilyn marwolaeth y Marchfilwr Michael Maguire, 21, yng Nghastellmartin ym mis Mai 2012.
Roedd y Marchfilwr Maguire yn un o nifer o filwyr oedd ar y maes ymarfer pan wnaeth dryll peiriannol ddechrau saethu tuag atynt.
Cafodd Mr Maguire, o ardal Cork yn Iwerddon, ei saethu'n farw ar ôl cael ei daro yn ei dalcen.
Cafwyd dau arall - yr Is-gyrnol Richard Bell a'r Swyddog Gwarantedig Ail Ddosbarth Stuart Pankhurst - hefyd yn euog gan y llys milwrol o berfformio dyletswydd yn esgeulus mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
'Digwyddiad trychinebus'
Mae disgwyl i'r tri gael eu dedfrydu ar 24 Gorffennaf.
Dywedodd Nigel Lickley ar ran yr erlyniad wrth y gwrandawiad yn Wiltshire bod milwyr ar un maes wedi bod yn saethu tuag at filwyr eraill ar faes saethu arall, oedd tua 1km i ffwrdd.
"Fe wnaeth y tri dyn chwarae eu rhan yn achosi'r digwyddiad trychinebus yma mewn ffyrdd gwahanol," meddai Mr Lickley.
"Lwc yw hi na gafodd rhagor eu hanafu neu eu lladd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2018