Gweithwyr Daily Post i golli swyddi wrth ailstrwythuro

  • Cyhoeddwyd
Daily Post
Disgrifiad o’r llun,

Bydd dau newyddiadurwr, ffotograffydd ac is-olygydd yn colli eu swyddi gyda'r Daily Post

Bydd nifer o swyddi'n cael eu colli fel rhan o ailstrwythuro yn ystafell newyddion y Daily Post yng ngogledd Cymru.

Bydd dau newyddiadurwr, ffotograffydd ac is-olygydd yn colli eu swyddi, ond bydd swydd arall yn cael ei chreu i gyfuno gwaith golygydd cyfryngau cymdeithasol a golygydd digidol.

Mae BBC Cymru ar ddeall fod newyddiadurwyr sy'n gweithio i'r Daily Post wedi gwrthod cynnig y cwmni i ail enwi eu gwefan yn 'North Wales Live'.

Nid yw'r perchnogion Reach plc, oedd yn arfer cael eu hadnabod fel Trinity Mirror, wedi gwneud unrhyw sylw ar y swyddi, ond maen nhw'n annog staff i "feddwl yn agored" ynglŷn ag ail-frandio ar-lein.

Mae tua 30 o newyddiadurwyr a 12 o staff masnachol yn gweithio ym Mae Colwyn i gynhyrchu papurau newydd y Daily Post, North Wales Weekly News, Caernarfon and Denbigh Herald a'r Bangor and Holyhead Mail.

'Effaith bositif'

Mae ffigyrau yn dangos fod cylchrediad dyddiol y Daily Post wedi bod yn 19,842 rhwng Ionawr a Rhagfyr 2017, gyda'r data mwyaf diweddar yn dangos fod 2.4 miliwn o ddefnyddwyr unigryw wedi ymweld â'i gwefan yn Hydref 2017.

Mae'r NUJ wedi dweud y bydden nhw'n gwrthwynebu unrhyw ddiswyddiadau gorfodol fel rhan o'r ailstrwythuro.

Mewn datganiad dywedodd Reach: "Mae'r ail-frandio i North Wales Live yn barhad o'r brandio digidol 'byw' sydd gennym ni ar hyd y DU, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus hyd yma.

"Rydym yn annog yr NUJ i gadw meddwl agored i'r effaith bositif mae wedi ei gael ar weddill y wlad, cyn iddyn nhw wfftio gogledd Cymru," meddai.