Ceidwadwyr yn herio'i gilydd dros gynlluniau Brexit May

  • Cyhoeddwyd
David Jones a Guto Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Mae Guto Bebb (dde) yn honni nad oedd David Jones wedi cyflawni llawer yn ei flwyddyn fel gweinidog Brexit

Mae'r AS Ceidwadol o Gymru, Guto Bebb wedi beirniadu'r cyn-weinidog Brexit, David Jones am feirniadu'r prif weinidog Theresa May.

Fe fydd aelodau cabinet Llywodraeth y DU yn cyfarfod ddydd Gwener i drafod cynigion ar gyfer y berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.

Dywedodd Mr Jones fod y cynigion yn croesi "llinellau coch" Mrs May ei hun ynglŷn â gadael yr undeb dollau a'r farchnad sengl.

Ond mynnodd Mr Bebb fod yr AS yn "surbwch" am nad oedd yn gallu cynnig unrhyw syniadau ei hun.

'Croesi llinellau'

Mae Mr Jones yn AS Ceidwadol dros Dde Clwyd, tra bod Mr Bebb yn cynrychioli'r un blaid yn San Steffan yn etholaeth Aberconwy.

"Mae'n bechod bod cyn-weinidog Brexit, wnaeth ddim cynnig unrhyw ffordd gall ymlaen yn ei flwyddyn yn y swyddfa, nawr yn meddwl ei bod hi'n dderbyniol ymosod ar y prif weinidog ar y teledu a'r radio dros gynllun dydi o heb ei ddarllen," meddai Mr Bebb, oedd o blaid Aros yn y refferendwm.

"Fe wnaeth y diffyg cynnydd yn ystod ei flwyddyn fel gweinidog Brexit olygu bod David yn cael y sac, a blwyddyn yn ddiweddarach dydi o dal heb gynnig unrhyw atebion positif.

"Ydi ei agwedd surbwch o wedi effeithio ar ei grebwyll?"

Mae gweinidogion y cabinet yn cyfarfod yn Chequers, cartref gwledig y prif weinidog, er mwyn ceisio datrys eu rhaniadau dros Brexit.

Ar hyn o bryd maen nhw'n anghytuno ar ba mor agos y dylai'r DU barhau i lynu at reolau'r UE.

Disgrifiad o’r llun,

Mae David Jones wedi cyhuddo Theresa May o groesi ei llinellau coch ei hun

Mae disgwyl i Mrs May awgrymu cadw at safonau'r UE ar reolau masnach a nwyddau, ond nid ar gyfer gwasanaethau.

Bydd yn rhaid i unrhyw gynllun y mae'r cabinet yn cytuno arno hefyd gael sêl bendith gan yr Undeb Ewropeaidd.

"Ar yr wyneb - wrth gwrs dydw i ddim wedi gweld y ddogfen - dydi hi ddim yn un da o gwbl," meddai Mr Jones wrth raglen Today ar BBC Radio 4 ddydd Gwener.

"Mae'r prif weinidog wedi'i gwneud hi'n glir bod ganddi dair llinell goch yn y trafodaethau yma. Dim marchnad sengl, dim undeb dollau, a dim awdurdod i Lys Cyfiawnder Ewrop.

"Mae'n ymddangos i mi fel y byddai'r llinellau coch yma'n cael eu croesi gyda beth sy'n cael ei gynnig heddiw."

Dyma yw'r sylwadau cyhoeddus diweddaraf gan Mr Bebb yn beirniadu gwleidyddion Ceidwadol sydd o blaid Brexit.

Fe wnaeth AS Aberconwy gyhuddo'r ysgrifennydd iechyd Jeremy Hunt o sylwadau "ymfflamychol" wedi iddo ddweud ei bod hi'n "amhriodol" i fusnesau sôn am bryderon ynghylch Brexit.

Bu'n feirniadol hefyd o gyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, a ddywedodd fod Airbus wedi gor-ddweud y risg i swyddi petai'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb.