Nathan Gill heb gamddefnyddio arian Ewrop, medd ymchwiliad
- Cyhoeddwyd
Ni wnaeth aelod Cymreig UKIP yn Senedd Ewrop, Nathan Gill, gamddefnyddio cyllid y senedd, yn ôl ymchwiliad gan gorff Ewropeaidd.
Dechreuodd y corff gwrth-dwyll OLAF ymchwilio i honiadau fod Mr Gill wedi defnyddio arian y senedd ar gyfer dibenion gwleidyddol ei blaid yn 2016.
Dywedodd Mr Gill, cyn-arweinydd UKIP yng Nghymru, fod yn "anodd disgwyl i glirio fy enw yn gyhoeddus".
Ychwanegodd bod yr honiadau wedi "gwastraffu" amser ac arian awdurdod ymchwilio'r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd llefarydd ar ran OLAF: "Mae OLAF wedi cwblhau'r ymchwiliad i honiadau o gamddefnydd posib o arian seneddol Ewropeaidd gan Nathan Gill.
"Cafodd yr achos ei gau heb unrhyw argymhelliad, ar ôl i OLAF ganfod nad oedd sail i'r honiadau gwreiddiol."
Roedd Mr Gill wedi mynnu o'r dechrau nad oedd wedi gwneud unrhyw beth o'i le.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2016