Ydy awyr goch yn golygu glaw?

  • Cyhoeddwyd
Afon Tywi bron yn sych ger cronfa ddŵr Llyn BrianneFfynhonnell y llun, Iestyn Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Afon Tywi bron yn sych ger cronfa ddŵr Llyn Brianne, Sir Gaerfyrddin

Ydy'r cyfnod hir o dywydd sych a braf yn dod i ben neu a fydd hi'n cynhesu eto ac yn creu problemau?

Pa mor anarferol yw cyfnod mor sych yr adeg yma o'r flwyddyn yng Nghymru ac oes 'na arwyddion neu batrwm sy'n gallu rhoi cliwiau inni?

Mae'r naturiaethwr Duncan Brown â diddordeb mewn astudio patrymau tywydd dros y blynyddoedd gan ddefnyddio data swyddogol ond hefyd cofnodion personol fel dyddiaduron amaethyddol neu adroddiadau papur newydd.

"Beth rwy'n hoff o wneud yw gweld yr amgylchedd yn gyffredinol a'r tywydd yn arbennig drwy lygaid pobl eraill," meddai.

"Mae gan bobl eu barn a'u rhagfarn am y tywydd a rwy'n hoffi casglu'r straeon yma gyda barn a dyddiad pendant a'u dethol a'u dehongli a'u rhoi nhw mewn i'm 'Tywyddiadur'.

"Ar hyn o bryd mae gynnon ni 117,000 o gofnodion gwahanol o pob math o gyfnodau.

"I roi enghraifft diweddar, ar 12 Gorffennaf wnaeth gŵr o Libanus roi gwybod fod o wedi gweld morgrug hedegog ar ei gar ar ôl bod yn cerdded y Bannau. Rŵan, 'da ni heb weld y flying ants 'ma eto eleni, ac fel arfer maen nhw'n ymddangos pan mae newid ar y gweill yn y tywydd."

Disgrifiad o’r llun,

Y naturiaethwr Duncan Brown

Mae hwn ond yn un arwydd tywydd o nifer sy'n codi ym myd natur, yn ôl y naturiaethwr Twm Elias.

"Mae gennych chi arwyddion sydd yn edrych ar yr amgylchedd sydd o'ch cwmpas... cyfeiriad y gwynt, patrwm y cymylau ac yn y blaen," meddai.

"Pethau sy'n dweud wrthych chi be' ydy'r tywydd go iawn. Dyma sail llawer o'r hen ofergoelion. Edrych ar yr hyn sydd yn digwydd o'r ddaear i fyny a chwilio am batrymau tywydd.

Dychmygu pethau?

"Weithiau, byddwch yn cael dychymyg pobl yn ymyrryd yn y broses yma! Hen amaethwr fyddai'n sylwi bod rhyw fuwch arbennig yn gorwedd ar ei hochr dde cyn iddi lawio, a fyddai hwn yn taeru i bawb fod hyn yn arwydd sicr o law... a dyna sut oedd rhai o'r ofergoelion yn codi. Nonsens llwyr oedd llawer ohonyn nhw, ond yn straeon oedd wedi ennill eu tir.

"Mae nifer o'r ofergoelion yn gymysgedd cymhleth o bethau mae pobl wedi sylwi arnynt dros y blynyddoedd.

"Er enghraifft, os yw'r glaw yn casglu'n ddiferion ar y lein ddillad, yna mae'r glaw yn cilio. Mae hyn yn gwneud synnwyr os meddyliwch am y peth, gan ei fod yn arwydd fod y gwynt yn gostegu.

"Felly, mae'r glaw ei hun weithiau'n medru bod yn arwydd, ac os oes glaw ar y gorwel mae'n ddefnyddiol cofio'r dywediad fach yma o ardal Ystalyfera:

Os daw gwynt o flaen y glaw

Cwyd dy galon, hindda ddaw;

Os daw glaw o flaen y gwynt

Tywydd mawr sydd ar ei hynt.

"A dweud y gwir, lefel y lleithder yn yr awyr yw'r arwydd mwyaf sicr o'r ffordd gall y tywydd symud.

Ond beth am awyr goch?

"Efallai eich bod chi'n gyfarwydd â'r dywediad am awyr goch gyda'r machlud yn arwydd o dywydd sych, ac awyr goch yn y bore yn arwydd o law.

"Wel ar y cyfan, mae yna rhyw wirionedd yn hynny o beth. Os yw'r awyr yn goch yn y bore, lleithder yn yr awyr sydd fel arfer yn ei achosi.

"Ond yn y nos, ar ôl diwrnod hir, os yw'r awyr yn sych a llawer o lwch yn hedfan yna mae hyn yn dangos ei hun drwy liw coch yn y gorllewin wrth i'r haul fachlud... sydd yn arwydd fod yr awyr yn sych ac felly'n arwydd fod hi am aros yn sych.

"Ond wedi dweud hynny, mae dywediad arall yn Gymraeg sef:

'Coch o gwmpas, glaw drwy'r deyrnas.'

"Hynny yw, hyd yn oed yn y nos, os yw'r cochni i'w weld o gwmpas yr awyr yr holl ffordd i'r dwyrain, yna ma' hyn yn arwydd o leithder, ac felly storm neu law!"

Disgrifiad o’r llun,

Twm Elias

Beth sydd o'n blaenau yn 2018?

Mae'n edrych yn debyg fod glaw ar y ffordd cyn bo hir, a'i dyna'r diwedd ar ein haf? Mae Duncan Brown yn edrych eto yn ei 'dywyddiadur'.

"Mae 2018 yn wahanol i 1976 mewn llawer o ffyrdd," meddai. "Roedd haf 1976 yn estyniad o gyfnod sych iawn ddechreuodd yn 1975," meddai Duncan Brown.

"Roedd gyda chi aeaf hynod o sych a phan ddaeth y tywydd anhygoel o sych yn haf '76 achosodd hyn broblemau enbyd.

"Un arwydd posib o'r tywydd braf yn parhau, fydd pla o Fuchod Goch Gota. Cafwyd pla o'r pryfyn yn 1976 ac yn ystod ha' poeth mae pawb wedi anghofio amdano, sef haf 1995, a gafodd fis Awst poeth iawn, sydd credwch neu beidio, yn eithaf anarferol.

Disgrifiad,

Pwy sy'n cofio hâf 1976?

"Mae rhai'n cofio gorfod sgubo'r buchod cwta o'r meinciau ar prom y Rhyl yn 1995, cyn medru eistedd yno. Felly os welwch chi lu o'r rhain tua diwedd mis Awst eleni, allai ei fod yn arwydd o fwy i ddod... neu o bosib mwy wedi cyrraedd.

"Yr unig flwyddyn rwy' 'di gweld sy'n debyg i eleni oedd 2013, pan gawson ni dywydd oer iawn ym mis Mawrth, ac yna cyfnod poeth iawn, ond am gyfnod byrrach, wnaeth bara tan tua mis Gorffennaf.

"A dweud y gwir, ar 19 Mehefin 2013 roedd cyfrifiaduron Parc Cenedlaethol Eryri wedi gorboethi a 'doedd y Parc ddim yn medru cysylltu â neb... dyna'r fath o stori sy'n rhoi bywyd i ystadegau'r tywydd."

Mae gan Twm Elias gyngor pellach ar sut i broffwydo'r tywydd.

"Mae'n syniad i chi ddod i adnabod eich tir, a dysgu adnabod yr arwyddion bach lleol sydd yn arbennig i'ch milltir sgwâr," meddai.

"Dyma enghraifft o hyn o sir Gaerfyrddin gan Donald Williams o Fancffosfelen, wnaeth ddweud wrtha'i yn 2009: "Hen ddywediad roedd Mam (Cwm Gwendraeth) yn ei ddweud byth a beunydd oedd 'Mae'n ddiwrnod glaw Abertawe heddiw, tra baro'r dydd, fe baro ynte'"

"Hynny yw, mae glaw sy'n dod o gyfeiriad y de orllewin yn tueddu fod yn drwm ac yn gyson."

Amen i'r tywydd

Ond y gwir yw, onid yw'r tywydd tu hwnt i'n rheolaeth yn y pen draw? Mae Twm wedi bod yn edrych yn ofalus ar rôl crefydd yn ogystal â natur.

"Yn Oes Fictoria yn ardal Cynwyd, ger Corwen, oedd hi 'di bod yn sych am gyfnod go hir, a doedd y gwair ddim yn tyfu.

"Felly dyma nhw'n cael cyfarfod gweddi yn y gwanwyn i weddïo am law. Wel, yn fuan iawn daeth y glaw a hwnnw'n law di-baid, ac ar ôl ychydig roedd y cynhaeaf mewn peryg.

"Felly dyma alw cyfarfod gweddi arall i ofyn am hindda. A dyma un o'r praidd yn gweddïo fel hyn:

'Da ni'n gwybod i ni ofyn am law y tro diwethaf f'Arglwydd, ond defnyddia dy reswm!'

Ac am y gair olaf ar y mater, yn ôl at Duncan: "Os edrychwch ar y wahanol adegau pryd 'da ni wedi cael cyfnodau hir a phoeth fel eleni, mae pob un bron wedi cael cyfnod bach, tebyg i'r hwn sydd yn digwydd rŵan, lle mae pobl wedi meddwl fod y tywydd wedi troi ac yn diolch i'r Arglwydd am law.

"Ond ym mhob un mae'r tywydd wedyn wedi mynd yn ôl i'r gwres mawr. Cawn ni weld ynte?"