Angen 'newid radical' i gael cydraddoleb rhwng y rhywiau
- Cyhoeddwyd
Mae angen newid radical i wireddu addewid i sicrhau cydraddoldeb rhwng dynion a menywod, yn ôl adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan y prif weinidog.
Mae'r adroddiad, gan yr elusen Chwarae Teg, yn galw ar weinyddiaeth Carwyn Jones i osod esiampl fel cyflogwr a phenodi mwy o uwch swyddogion benywaidd o fewn y gwasanaeth sifil.
Dywedodd Mr Jones bod deddfau a rheolau mewn grym ond bod "angen deall pam nad ydy hynny'n gweithio cyn gyflymed ag y bydden ni'n dymuno".
Mae'r adroddiad yn dilyn addewid gan y prif weinidog i arwain llywodraeth ffeministiaidd a sicrhau mai Cymru yw'r wlad fwyaf diogel yn Ewrop i fod yn ddynes.
Mewn rhai achosion, meddai adroddiad Chwarae Teg, "ticio blychau" mae cyrff cyhoeddus mewn cysylltiad â chydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Gan alw ar Lywodraeth Cymru i fod yn "feiddgar", dywedodd yr elusen: "I wireddu'r newid angenrheidiol er mwyn arloesi drwy'r byd o ran cydraddoldeb rhyw, bydd angen newid radical yn yr hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud."
Tua 42% o uwch swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n fenywod, meddai Mr Jones, sy'n dweud nad yw'r bwlch o 8% rhwng cyflogau dynion a merched yn "rhywbeth i ymfalchïo ynddo".
Er mwyn helpu mamau newydd i ddychwelyd i'w gwaith o fewn y llywodraeth, mae'r adroddiad yn galw am roi'r raddfa uwch o dâl mamolaeth pan fo tadau'n rhannu'r cyfnod o'r gwaith i ofalu am fabanod gyda'u partneriaid.
Mae Mr Jones yn cytuno bod "angen i ni edrych ar hynny".
Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu oedi cyn gweithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), gafodd gefnogaeth y Cynulliad yn 2015.
Clywodd yr elusen dystiolaeth o "'ddiwylliant o anghrediniaeth' ble y man cychwyn i awdurdodau yn aml yw i beidio â chredu cwyn o aflonyddu neu ymosodiad rhyw; agwedd na welir wrth dderbyn cwynion o droseddau eraill, fel lladrata".
Dywedodd y prif weinidog: "Mae adroddiad Chwarae Teg yn taflu goleuni ar y pethau y mae angen i ni eu gwella ac sy'n ein herio i wneud pethau'n well."
Ychwanegodd ei fod wedi penderfynu blaenoriaethu cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar ôl gweld menywod yn cael eu sarhau, yn enwedig ar-lein, a bygythiadau i wleidyddion benywaidd.
"Rydym ni nawr yn gweld newid diwylliant ble dyw pobl ddim eisiau goddef hyn rhagor," meddai.
Ategodd ei farn y byddai'n "anodd iawn, iawn" i'r Blaid Lafur yng Nghymru os na fyddai ymgeisydd benywaidd yn y ras i ddewis ei olynydd.
"Dydy hynny ddim yn rhywbeth alla'i ei reoli. Fydda i ddim yn enwebu neb, ond fyddai hi ddim yn edrych yn dda, o ystyried bod gyda ni uchelgais i anelu at fwy o gydraddoldeb."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2017