Ymgyrchwyr yn galw am gylch meithrin Cymraeg ym Mwcle
- Cyhoeddwyd
Byddai creu cylch meithrin ym Mwcle yn "gam cyntaf" tuag at ehangu addysg Gymraeg yn yr ardal, yn ôl ymgyrchwyr.
Sefydlu cylch meithrin ydy bwriad cyfarfod cyhoeddus yn y dref, sy'n un o'r mwyaf yn Sir y Fflint, nos Iau.
Yn ôl Nick Thomas o Sir Y Fflint Dros Addysg Gymraeg (SYFFLAG), mae "angen ysgol gynradd" ym Mwcle.
Dim ond tua thair milltir sydd rhwng y dref a'r Wyddgrug, lle mae mwy o ddarpariaeth - ond mae'r ysgol gynradd yno'n llawn.
'Creu'r galw'
Yn dilyn y fargen ar y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru y llynedd, bydd y Mudiad Meithrin yn derbyn £2m yn ychwanegol dros ddwy flynedd, yn rhannol er mwyn darparu addysg feithrin Gymraeg lle nad ydy hynny ar gael.
"'Dan ni wedi bod yn gweithio yn ardal Bwcle i greu'r galw," meddai Sali Edwards o'r Mudiad Meithrin.
"'Dan ni wedi rhedeg sesiwn Clwb Cwtsh yn y gwanwyn, oedd yn boblogaidd iawn... ac mae'r grŵp Ti a Fi wedi bod yn boblogaidd ers blynyddoedd rŵan, felly 'dan ni'n meddwl bod nifer o rieni yn yr ardal fuasai'n dewis dod i'r cylch meithrin."
Yn ôl Mrs Edwards, mae sefydlu cylch yn galluogi rhieni di-Gymraeg "i weld eu plant mewn addysg Gymraeg... fel eu bod ddim yn pryderu gymaint am fynd â'u plant i ysgol [Gymraeg]".
Ysgol gynradd i Fwcle?
Mae Nick Thomas o SYFFLAG yn credu mai dechrau gydag addysg feithrin yw'r ffordd "fwyaf ymarferol" o annog rhieni i ddewis addysg Gymraeg i'w plant.
Mae'n dweud ei bod hi'n bryd i Fwcle gael addysg Gymraeg - ac mai dyma'r dref amlycaf i sefydlu ysgol gynradd Gymraeg ynddi yn y dyfodol.
Mae'r ysgol gynradd Gymraeg agosaf, Ysgol Glanrafon yn Yr Wyddgrug, yn llawn. Mae ganddi 346 o ddisgyblion, ond capasiti o 287 sydd ganddi, yn ôl rhestr ysgolion Cyngor Sir Y Fflint, dolen allanol.
"Mae Glanrafon yn orlawn," meddai Mr Thomas.
"Felly 'dan ni angen ysgol gynradd ym Mwcle - a'r cam cyntaf yw cael cylch meithrin."
Bydd bwriad Mudiad Meithrin i sefydlu cylch yn cael ei drafod yn y cyfarfod cyhoeddus ym Mwcle, a'u gobaith yw cael cylch gweithredol erbyn Pasg 2019.
'Llwyr gefnogol'
Dywedodd Swyddog Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint, Claire Homard, bod y cyngor yn "llwyr gefnogol" o gynlluniau i sefydlu grŵp meithrin Cymraeg.
Dywedodd hefyd bod strategaeth addysg yr awdurdod "eisoes wedi adnabod Bwcle fel ardal ar gyfer twf yn y dyfodol" ac yn "ymchwilio i ffyrdd o wneud hynny".
Ychwanegodd bod rhieni sy'n dymuno addysg Gymraeg yn cael hynny yn Ysgol Glanrafon ar hyn o bryd, ond bod y cyngor wedi ymrwymo i ehangu'r ddarpariaeth yn y sir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2017