AS Llafur Cymru yn gwadu 'gwerthu' cerdyn mynediad i noddwr

  • Cyhoeddwyd
jo stevens
Disgrifiad o’r llun,

Cyfrannodd Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu £4,000 i ymgyrch etholiadol Jo Stevens, AS Canol Caerdydd yn 2017

Mae un o ASau Llafur Cymru wedi gwrthod sylwadau "maleisus a chamarweiniol" am ei phenderfyniad i ddarparu cerdyn mynediad i Dŷ'r Cyffredin i swyddog a gyfrannodd at ei hymgyrch etholiadol.

Mae llefarydd ar ran Jo Stevens wedi dweud bod yr unigolyn, sy'n gweithio i Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, wedi derbyn cerdyn mynediad am ei fod yn cynorthwyo'r AS wrth ei gwaith.

Dywedodd Sir Alistair Graham, cyn-gadeirydd pwyllgor safonau mewn bywyd cyhoeddus, bod arfer ASau Llafur o roi cardiau mynediad i undebau sy'n cyfrannu'n ariannol at eu hymgyrchoedd etholiadol yn "annerbyniol".

Fodd bynnag, ni chafodd cwyn swyddogol ei wneud i swyddfa'r Comisiynydd Safonau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jo Stevens wedi cynrychioli etholaeth Canol Caerdydd ers 2015

Mae Ms Stevens, sy'n cynrychioli etholaeth Canol Caerdydd, yn gwadu honiadau iddi ddarparu cerdyn mynediad i Andrew Towers, pennaeth strategaeth wleidyddol i Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, am i'w undeb gyfrannu'n ariannol at ei hymgyrch etholiadol.

Roedd yr undeb wedi rhoi £4,000 i ymgyrch Ms Stevens y llynedd.

Yn ôl rheolau seneddol dim ond staff "wedi eu cyflogi i gefnogi gwaith seneddol" sydd i fod derbyn cardiau mynediad i Dŷ'r Cyffredin.

Mae'n cael ei nodi mai'r rolau canlynol yn unig sydd i fod derbyn cerdyn mynediad, sef ymchwilydd, ysgrifennydd, intern, swyddog i'r blaid, gyrrwr a gofalwyr unigolion ar brofiad gwaith.

Nid yw ASau yn cael trefnu cardiau mynediad i Dŷ'r Cyffredin i unrhyw un nad ydynt yn gweithio'n uniongyrchol iddynt.

'Unol a'r rheolau'

Yn ôl llefarydd ar ran Ms Stevens AS, roedd Andrew Towers yn cynorthwyo'r AS fel cynghorydd gwirfoddol i drafod materion yn ymwneud â bywyd yn y gweithle, hawliau cyflogaeth a'r sector bost a thelathrebu.

Dywedodd: "Cafodd y cerdyn mynediad ei roi gan awdurdodau seneddol yn unol gyda'u rheolau.

"Mae unrhyw awgrym bod Mr Towers wedi talu Ms Stevens am fynediad yn faleisus ac yn gamarweiniol."

Yn The Sunday Telegraph, dywedodd Sir Alistair Graham, cyn-gadeirydd pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus, bod yr arfer cyffredin ymysg ASau Llafur i roi cardiau mynediad i undebau sy'n cyfrannu at eu hymgyrchoedd yn annerbyniol.