'Rhaid cefnogi cynllun Brexit Theresa May'

  • Cyhoeddwyd
davied daiesFfynhonnell y llun, davies

Mae AS Ceidwadol o Gymru wedi annog ei gyd-aelodau ewro-sgeptig o'i blaid, i gefnogi cynllun Brexit hanner cyflawn Theresa May, neu bydd yr holl brosiect mewn perygl.

Fe wnaeth David TC Davies AS ei bwynt mewn llythyr i'r Ceidwadwyr sy'n rhan o'r Grŵp Ymchwil Ewropeaidd (ERG) - sef cynghrair o ASau Ceidwadol dan arweiniad Jacob Rees-Mogg.

Mae Mr Davies yn annog aelodau'r ERG i "lyncu eu balchder" a chefnogi Mrs May.

Fe ddaw neges AS Sir Fynwy ar y diwrnod y bydd llywodraeth y DU yn cyhoeddi eu Papur Gwyn.

'Dig iawn'

Dywedodd Mr Davies wrth BBC Cymru fod teimladau o fewn y grŵp yn "ddig iawn" am y cytundeb a gytunwyd gan y cabinet yn Checkers, ond roedd ASau ar y ddwy ochr i ddadl Brexit yn wynebu "gambl" ar y mater.

"Mae'r rhai sydd am adael yn ceisio rhoi'r gorau i'r syniad o "Brexit meddal" y prif weinidog, ac fe all hynny chwalu'r holl broses, a chwalu'r llywodraeth", meddai.

"Ar y llaw arall, fe all y rhai sydd eisiau aros yn yr Undeb chwalu cynlluniau'r prif weinidog a gwthio'r DU yn bellach o unrhyw fargen gyda'r UE."