Gwraig Anglesea heb gael gwybod ei fod yn yr ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Gordon AngleseaFfynhonnell y llun, Andrew Price
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Gordon Anglesea wythnos wedi iddo gael ei daro'n wael yng ngharchar Rye Hill yn Sir Warwick

Mae hi wedi dod i'r amlwg na chafodd gwraig i bedoffil oedd wedi ei garcharu wybod ei fod yn yr ysbyty tan dridiau'n ddiweddarach.

Bu farw'r cyn uwch-arolygydd gyda Heddlu'r Gogledd, Gordon Anglesea, ym mis Rhagfyr 2016 tra'i fod yn garcharor yn HMP Rye Hill yn Sir Warwick.

Mae adroddiad i'w farwolaeth yn nodi y dylai'r gŵr 79 oed o Fae Colwyn fod wedi cael gweld meddyg yn gynt.

Cafodd adroddiad Ombwdsman y Carchardai a'r Gwasanaeth Prawf ei gyhoeddi ddydd Iau.

Dywedodd awdur yr adroddiad, yr ombwdsman Nigel Newcomen, ei fod hefyd yn bryderus na chysylltodd y carchar gyda gwraig Anglesea yn syth wedi iddo gael ei rhuthro i'r ysbyty.

Mae rheolau carchardai yn nodi y dylai'r perthnasau agosaf gael gwybod cyn gynted â phosib pan fydd carcharor yn ddifrifol wael.

Cafodd Anglesea ei arestio yn 2013 yn dilyn Ymgyrch Pallial, oedd yn edrych i achosion o gamdrin rhywiol hanesyddol yn y gogledd.

Clymu heb eisiau

Cafodd Anglesea ei gludo i Ysbytai Athrofaol Coventry a Sir Warwick ar 7 Rhagfyr 2016 a bu farw ychydig dros wythnos yn ddiweddarach ar 15 Rhagfyr.

Dywedodd Mr Newcomen nad oedd y ffordd y cafodd Anglesea ei glymu yn yr ysbyty wedi cael ei "gyfiawnhau gan asesiad risg briodol" o ystyried ei fod yn ŵr sâl ac oedrannus.

Serch hynny, daeth y cwest i farwolaeth Anglesea i'r casgliad ei fod wedi marw o achosion naturiol, yn sgil niwmonia ac wedi i nifer o'i organau fethu.

Er bod yr adroddiad yn awgrymu y dylai Anglesea fod wedi gweld meddyg yn gynt, cafodd ei nodi na fyddai hynny o bosib wedi atal ei farwolaeth.