Ateb y Galw: Yr actores Lowri Palfrey

  • Cyhoeddwyd
Lowri PalfreyFfynhonnell y llun, S4C

Yr actores Lowri Palfrey sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddi gael ei henwebu gan Saran Morgan yr wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Gwisgo twtw ym mhobman - fy hoff wisg am flynyddoedd.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

O'dd 'da fi boster Craig David a wedyn Eminem.

Disgrifiad o’r llun,

Tybed ydy'r bythol-ifanc Craig David yn dal i gael argraff ar Lowri?!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Bendant cwympo dros y clwydi yn y mabolgampau ym mlwyddyn saith. O flaen yr holl ysgol!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Siŵr o fod yn gwylio rhwbeth ar y teledu neu ffilm, sai'n cofio - ond dyw e ddim yn cymryd lot i setio fi off.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Poeni gormod am bethe di-angen.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Caeau Llandaf yn Ngaerdydd. Llawn atgofion hapus trwy gydol fy mywyd - o fynd lawr y sleid mawr pan o'n i fach, i'r picnic ges i yna wythnos dwetha'.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Es i i Prague adeg Nadolig ac oedd e'n brofiad anhygoel gweld y goeden Nadolig yng nganol y sgwâr. Wedyn mla'n i gael bwyd hyfryd a chwrw rhad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Prague yn lle hudolus, yn enwedig adeg y Nadolig

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Five foot four.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Fy hoff lyfr yw The Secret History gan Donna Tart. Nes i ddarllen e blwyddyn dwetha' a o'n i methu roi e lawr.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Cariad fi, achos fe sy'n 'neud fi chwerthin mwy na neb arall.

O archif Ateb y Galw:

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Ma' penblwydd fi ar ddiwrnod Nadolig.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Yfed gwin efo pawb fi'n caru.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Fi'n hoffi pob math o gerddoriaeth rili, ond yn ddiweddar fi 'di bod yn gwrando ar Marcia Griffiths. Ma' cover hi o gân The Beatles Don't Let Me Down yn hyfryd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Marcia Griffiths, yn wreiddiol o Jamaica, wedi bod yn perfformio ers y 60au... a dal wrthi!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Calamari ac aioli, Thai green curry 'da monkfish a tarten lemwn.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Nith fi Ruby. Ma' hi'n dair mlwydd oed a ma' bywyd yn edrych yn rili hwyl!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Sue Roderick