Cynllun i osod cebl tanfor rhwng Sir Benfro ac Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Freshwater West
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r cebl tanfor yn cyrraedd y lan ger traeth Freshwater West yn Sir Benfro

Gallai cebl trydan 125 milltir o hyd gael ei osod dan y môr rhwng Sir Benfro a Sir Wexford yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Bwriad y Greenlink Interconnector, fyddai'n gallu cario digon o drydan ar gyfer 380,000 o dai, fyddai rhannu ynni rhwng y Grid Cenedlaethol a'u cwmni cyfatebol yn Iwerddon.

Mae'r datblygwyr yn dweud y gallai helpu leihau costau ar ddwy ochr y môr.

Dywedodd cyfarwyddwr prosiect Greenlink, Simon Ludlam, y gallai cysylltu'r ddwy wlad helpu gyda sicrwydd ynni yn y dyfodol.

'Gostwng prisiau'

"Mae cysylltiadau o'r fath wedi profi eu gallu i leihau prisiau ar gyfer cwsmeriaid ar y ddwy ochr, felly yn yr achos yma fe fydd budd yn sicr o bris is ynni Gwyddelig," meddai.

"Mae gan Iwerddon nifer sylweddol o ffynonellau ynni adnewyddadwy nawr, felly pan mae'r gwynt yn chwythu neu'r haul yn tywynnu fe allen nhw ei allforio ar bris is i'r Deyrnas Unedig, fydd yn gostwng prisiau yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r cebl yn cael ei osod yn y môr gan long arbennig

Petawn nhw'n llwyddiannus dyma fyddai'r cysylltiad cyntaf o'r fath yn ne Cymru, yn dilyn un tebyg o Iwerddon i Shotton yn Sir y Fflint chwe blynedd yn ôl.

Byddai'r cebl diweddaraf yn rhedeg o Great Island yn Sir Wexford ac yn cyrraedd y tir ar yr ochr arall yn Freshwater West, Sir Benfro, cyn parhau dan ddaear nes cyrraedd gorsaf drawsnewid gyfagos.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai'n rhaid bod yn ofalus o unrhyw ffrwydrau yn y môr, meddai un o beirianwyr y cynllun

Dywedodd Dr Norman Macleod, un o beirianwyr y prosiect, fod angen bod yn ofalus gan fod y cebl yn cyrraedd y lan yng Nghymru yn agos at faes tanio Castell Martin.

"Rydyn ni'n gosod y cebl ar wely'r môr ond wrth i ni gyrraedd arfordir Cymru bydd rhaid bod yn ofalus, oherwydd y perygl o gyflenwadau sydd heb ffrwydro ar wely'r môr," meddai.

Mae'r cwmni y tu ôl i'r cynllun €400m (£353m) yn gobeithio gwneud cais am ganiatâd cynllunio yn y ddwy wlad yn gynnar y flwyddyn nesaf, cyn dechrau ar y gwaith adeiladu yn 2020.

Ar hyn o bryd mae pedwar cebl tanfor o gwmpas y DU, gydag 11 arall yn cael eu cynllunio neu eu hadeiladu, gan gynnwys rhai fydd yn cludo trydan mor bell â Norwy a Gwlad yr Ia.