Gwerthu holl docynnau gêm merched Cymru v Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae'r holl docynnau ar gyfer y gêm dyngedfennol rhwng merched Cymru a Lloegr wedi gwerthu allan o fewn diwrnod.
Ddydd Iau fe aeth dros 5,000 o docynnau ar werth ar gyfer yr ornest yn Rodney Parade, Casnewydd ar 31 Awst.
Fe gyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru amser cinio ddydd Gwener fod y cyfan, gan gynnwys yr ychydig dros 200 oedd ar gael i gefnogwyr Lloegr, wedi mynd.
Os yw Cymru'n ennill fe fyddan nhw'n cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed.
Maen nhw ar frig y grŵp rhagbrofol ar hyn o bryd gydag un gêm i fynd yn dilyn eu buddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Rwsia fis diwethaf.
Mae Lloegr bwynt y tu ôl iddyn nhw, ond gyda dwy gêm yn weddill, gan olygu y byddan nhw'n gallu pasio Cymru ar y brig os yw'r ornest rhwng y ddau dîm yn gorffen yn gyfartal.
Bydd enillwyr y grŵp yn bendant o le yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc yn 2019, tra bod y tîm sy'n ail mwy na thebyg yn wynebu'r gemau ail gyfle.