Mwy o fannau gwyrdd yng Nghymru'n ennill gwobrau

  • Cyhoeddwyd
Campws Bae AbertaweFfynhonnell y llun, Cadwch Cymru'n Daclus
Disgrifiad o’r llun,

Mae Campws Bae Prifysgol Abertawe yn ennill y faner werdd am y tro cyntaf

Mae 201 o barciau a mannau gwyrdd ar draws Cymru wedi ennill Gwobr y Faner Werdd, mwy nag erioed o'r blaen.

Ymhlith yr enillwyr sydd wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd mae prifysgolion, mynwentydd, coetiroedd a rhandiroedd ar draws Cymru.

Mae'r faner werdd yn wobr ryngwladol sy'n cael ei rhoi i barc neu fan gwyrdd o ansawdd.

Eleni, am y tro cyntaf, bydd parc Aberdâr, mynwent Wrecsam a champws Bae Prifysgol Abertawe yn derbyn y faner werdd, yn ogystal ag ysbyty Glan-rhyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr - yr ysbyty cyntaf yng Nghymru i ennill y statws.

'Iechyd a lles'

I dderbyn Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru mae'n ofynnol cwrdd ag wyth maen prawf llym gan gynnwys safonau garddwriaethol, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chyfranogiad cymunedol.

Mae'r rhaglen yn cael ei rheoli gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus ac yn cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd: "Mae parciau a mannau gwyrdd yn chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau, felly mae'n galonogol gweld ystod mor amrywiol o safleoedd yng Nghymru yn derbyn Gwobr y Faner Werdd.

tim garddio Ysbyty Glan-rhyd, Pen-y-BontFfynhonnell y llun, Cadwch Cymru'n Daclus
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau o'r tîm sydd wedi helpu Ysbyty Glan-rhyd ym Mhen-y-bont i fod yr ysbyty cyntaf i ennill y faner werdd

"Mae ein parciau a'n mannau gwyrdd yn hafan i fywyd gwyllt ac yn hanfodol i'n hiechyd a'n lles.

"Hoffwn longyfarch yr holl safleoedd am ddarparu cyfleusterau a digwyddiadau rhagorol drwy'r flwyddyn ar gyfer pobl yng Nghymru."

Ymhlith y safleoedd sydd wedi ennill Gwobr Gymunedol y Faner Werdd am y tro cyntaf eleni mae Coed Llwynonn ar Ynys Môn, pentref Pontsticill ym Merthyr Tudful a Mynwent Sant Tudno (Pen y Gogarth), Conwy.

Mae'r safleoedd hyn yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gynnal eu cyfleusterau rhagorol.

Cafodd chwe safle Achrediad Safle Treftadaeth Werdd - yn eu plith Parc Margam yng Nghastell-nedd Port Talbot, Mynwent Cathays yng Nghaerdydd a Dyffryn Maes Glas yn Sir y Fflint.

'Annog pawb i fynd allan'

Mae'r wobr hon yn cydnabod safleoedd sydd yn arwyddocaol yn hanesyddol.

Dywedodd Lucy Prisk, cydlynydd y Faner Werdd gyda Cadwch Gymru'n Daclus: "Rydym wrth ein bodd yn dathlu blwyddyn lwyddiannus arall i wobrau'r faner werdd yng Nghymru.

"Mae'r 201 o faneri sydd yn hedfan yn dyst i ymroddiad a brwdfrydedd y staff a'r gwirfoddolwyr ar draws y wlad sydd yn gweithio'n ddiflino i gynnal safonau Gwobr y Faner Werdd.

"Byddwn yn annog pawb i fynd allan i'r awyr agored yr haf hwn i fwynhau'r parciau a'r mannau gwyrdd anhygoel sydd gennym ar drothwy'r drws."