Pysgotwr yn dal siarc oddi ar arfordir Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae pysgotwr o Lanelli wedi dal un o'r siarcod mwyaf i erioed gael ei ddal ym moroedd Cymru, a hynny oddi ar arfordir Sir Benfro.
Fe gymrodd hi ddwy awr i George Simmonds, 51 oed i ddal Llwynog y Môr (Thresher Shark) ar ei gwch ger Dale.
Roedd y siarc yn mesur 12 troedfedd wyth modfedd o hyd, ac roedd angen help tri dyn arall ar Mr Simmonds i dynnu'r siarc o'r môr.
"Dwi wedi bod yn pysgota ers yn blentyn, a dwi wedi bod dros y byd yn pysgota - ond roedd hwn yn foment fawr ac yn llwyddiant personol i mi," meddai Mr Simmonds.
Roedd Meirion Williams o Ben-y-bont ar Ogwr, sy'n trefnu tripiau pysgota siarcod yn ystod yr haf yn Sir Benfro gyda Mr Simmonds ar y cwch.
Y gred yw mai dim ond tri Llwynog y Môr sydd erioed wedi cael ei dal oddi ar arfordir Cymru, gyda'r record ddiwethaf yn cael ei osod yn 2015.
Yn ôl Mr Williams does dim modd iddyn nhw ddatgan y record yn swyddogol y tro hwn gan iddyn nhw beidio â lladd y siarc.
Ychwanegodd Mr Simmonds: "Roedd y siarc mor fawr doedd prin yn ffitio ar y cwch. Fe wnaethom ei roi yn ôl yn y môr yn syth, ac fe nofiodd i ffwrdd yn braf."