Cyhoeddi blaenoriaethau deddfu Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd

Dyma oedd y tro olaf i Carwyn Jones wneud y datganiad cyn rhoi'r gorau iddi ym mis Rhagfyr
Mae angen sicrhau nad yw Brexit yn hawlio cymaint o sylw fel ei fod yn atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno deddfau eraill yn y Cynulliad, yn ôl Carwyn Jones.
Mae pleidleisio yn 16 oed, gwahardd taro plant, a sefydlu corff i warchod buddiannau cleifion ymhlith y blaenoriaethau yn ystod misoedd olaf Mr Jones wrth y llyw.
Mae annog cynghorau i uno hefyd yn rhan o'i raglen ddeddfwriaethol olaf, gafodd ei gyflwyno ddydd Mawrth.
Ond dywedodd y Ceidwadwyr fod y llywodraeth Lafur yn "ddiddychymyg a blinedig" a'u bod nhw'n "gwneud mân newidiadau".
Llai o gynghorau
Dyma oedd y tro olaf i Mr Jones amlinellu ei raglen ddeddfu cyn iddo gamu o'r neilltu yn nes ymlaen eleni.
Mae'r cyhoeddiad blynyddol yn y Cynulliad yn debyg i araith y Frenhines yn San Steffan, lle mae Llywodraeth Cymru'n esbonio'r ddeddfwriaeth maen nhw yn ei gynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Wrth wneud y datganiad am y tro olaf cyn iddo roi'r gorau iddi ym mis Rhagfyr, fe wnaeth Mr Jones hefyd edrych yn ôl ar ei wyth mlynedd fel prif weinidog.
Cafodd y Ddeddf Rhoi Organau a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol eu crybwyll fel rhai o uchafbwyntiau ei gyfnod wrth y llyw.

Bydd anogaeth, ond nid gorfodaeth, i gynghorau uno
Yn y gwanwyn bydd mesur yn cael ei gynnig i leihau nifer y cynghorau o 22, a bydd hefyd yn rhoi'r bleidlais i'r rhai sy'n 16 ac yn 17 oed mewn etholiadau cyngor.
Mae gweinidogion wedi bod yn ceisio annog neu orfodi cynghorau i uno ers 2014.
Ni fydd y mesur newydd yn cynnwys map o ffiniau newydd y cynghorau, ond yn hytrach, mae gweinidogion yn gobeithio y bydd yr awdurdodau lleol yn ail-strwythuro yn wirfoddol.
Yn ôl ffynhonnell o fewn Llywodraeth Cymru mae'r prif weinidog a'r ysgrifennydd llywodraeth leol, Alun Davies yn glir fod "peidio newid ddim yn opsiwn".
Bydd gwaharddiad hefyd ar anifeiliaid gwyllt yn perfformio fel rhan o syrcas deithiol.
'Cyflawni ar ran pobl Cymru'
Wrth i'w pwerau i ddeddfu dyfu bydd gweinidogion yn cyhoeddi Mesur Deddfwriaeth er mwyn gwneud cyfreithiau yn fwy hygyrch.
Fe all y Cynulliad hefyd ddisgwyl i'w lwyth gwaith dyfu yn dilyn Brexit.
Dywedodd Mr Jones: "Mae sicrhau bod ein llyfr statud yn barod ar gyfer ymadael â'r UE yn her sylweddol i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol, ond rhaid i ni beidio â gadael i hynny gyfyngu ar ein huchelgais.
"Byddwn yn parhau i symud ymlaen a chyflawni ar ran pobl Cymru."

Mae mesur i wahardd taro plant ar restr deddfwriaethol y llywodraeth
Ond dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood fod y rhaglen ddeddfwriaethol wedi "cicio penderfyniadau allweddol i'r glaswellt hir".
Ychwanegodd fod uchelgais Mr Jones i greu llywodraeth ffeministaidd yn "swnio fel geiriau gwag" gan nad oedd unrhyw ddeddfwriaeth i gefnogi hynny.
Cyhoeddodd Mr Jones y byddai cyhoeddiad ar fesur i'r iaith Gymraeg y flwyddyn nesaf, ond nad oedd yn rhan o'r rhaglen swyddogol.
Dywedodd Ms Wood ei bod yn gobeithio fod yr oedi'n "dangos bod y llywodraeth yn meddwl eto".
Ar daro plant, gofynnodd arweinydd UKIP Caroline Jones: "Oes gennym ni'r hawl i ddweud wrth rieni sut y dylen nhw ddisgyblu eu plant?"