Dau ymgeisydd i arwain y Ceidwadwyr Cymreig
- Cyhoeddwyd
Bydd gan aelodau'r Blaid Geidwadol ddewis o ddau o bobl i fod yn arweinydd nesaf y blaid yng Nghymru.
Daeth y cyfnod enwebu i ben brynhawn dydd Llun, a dim ond Paul Davies a Suzy Davies sydd wedi cynnig eu henwau ar gyfer y swydd.
Mae'r ddau yn ceisio olynu Andrew RT Davies i'r swydd, ar ôl iddo ymddiswyddo o'r rôl ym mis Mehefin.
Bydd canlyniad yr etholiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi, ac aelodau cyffredin y blaid fydd yn pleidleisio dros eu dewis nhw fel arweinydd.
Paratoi am 'ornest'
Paul Davies ydy'r arweinydd ar hyn o bryd, ar ôl camu i'r swydd dros dro yn dilyn ymadawiad Mr Davies. Ef hefyd yw prif chwip y blaid yn y Cynulliad.
Mae Suzy Davies yn cynrychioli Gorllewin De Cymru, ac ar hyn o bryd hi yw llefarydd y Ceidwadwyr ar ddiwylliant, twristiaeth a'r iaith Gymraeg yn y Cynulliad.
Dywedodd cadeirydd y blaid yng Nghymru, Byron Davies: "Fe hoffwn i longyfarch Paul a Suzy a dymuno'n dda iddyn nhw yn yr ornest sydd i ddilyn."
Fe gadarnhaodd y blaid y bydd yr ymgeiswyr yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd o flaen aelodau cyn y bydd modd iddyn nhw fwrw eu pleidlais dros yr haf.
Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar ddydd Iau, 6 Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2018