Ysgol wedi camwahaniaethu yn erbyn disgybl anabl

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Eifion Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ysgol Eifion Wyn fod mwy o staff wedi'u hyfforddi i helpu'r disgybl bellach

Mae teulu o Borthmadog wedi ennill tribiwnlys yn erbyn eu hysgol gynradd leol ar ôl i'w mab anabl golli bron i bedair wythnos o'r ysgol am nad oedd cymhorthydd arbenigol ar gael i'w helpu.

Mae gan y disgybl, nad ydyn ni am enwi, gyflwr Prader Willi, sy'n effeithio ar ei gyhyrau a'i ddatblygiad, yn ogystal ag epilepsi cymhleth.

Mae Cyngor Gwynedd ac Ysgol Eifion Wyn yn derbyn y dyfarniad, gan ddweud eu bod wedi gweithredu'r argymhellion yn llawn.

Ychwanegon nhw fod mwy o staff wedi'u hyfforddi erbyn hyn i helpu'r disgybl.

'Torcalonnus'

Roedd y bachgen wedi mynychu ei ysgol gynradd leol heb broblemau tan yn ddiweddar.

Ond ar ôl i'w brif gymhorthydd fynd yn sâl a'r cymhorthydd wrth gefn gael ei diswyddo, doedd neb i'w helpu yn yr ysgol er bod hynny'n ofyniad statudol.

Fe wnaeth hynny arwain ato'n colli 19 diwrnod o addysg.

Disgrifiad,

Dywedodd mam y bachgen, Medwen Edwards bod y sefyllfa wedi bod yn un "erchyll"

Dywedodd mam y bachgen, Medwen Edwards, wrth y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru: "Yn anffodus, mae'n anorfod fod y mab yn colli nifer o ddyddiau o'r ysgol oherwydd apwyntiadau a'i salwch, felly pan mae o'n iach mae rhywun yn trio gwneud y gorau posib iddo gael mynychu'r ysgol.

"Roedd o'n brofiad erchyll. Roedd rhywun yn teimlo anghyfiawnder mewn ffordd.

"Tra'r oedd ei gyfoedion o i gyd yn yr ysgol, 'doedd o ddim yn cael bod yno hefo nhw.

"Ar rai dyddiau mi oedd o 'di gwisgo'n barod yn ei wisg ysgol ac roedd yr alwad ffôn yn dod yn dweud 'na, cheith o'm dod i'r ysgol heddiw.'

"Roedd gorfod trio torri'r newyddion i ddweud bod o ddim yn cael mynd i'r ysgol yn gwbl dorcalonnus achos 'doedd o'm yn deall."

'Dim dewis'

Yn ôl Ms Edwards, roedd y teulu'n teimlo fel mai eu hunig opsiwn oedd herio'r ysgol mewn tribiwnlys.

"Mi wnaethon ni anfon llythyrau dirifedi yn gofyn am ddatrys hyn ond dal i golli dyddiau o addysg oedd y mab," meddai.

"Felly doedd 'na ddim dewis yn y diwedd, roedd yn rhaid i ni gwffio i gael ei hawl sylfaenol o addysg, rhywbeth nes i erioed ddychmygu fydden ni'n gorfod gwneud."

Fe ddyfarnodd y tribiwnlys addysg arbennig fod yr ysgol wedi torri'r gyfraith trwy wahaniaethu ar sail anabledd, a methu â gwneud addasiadau rhesymol trwy sicrhau bod cymhorthydd ar gael drwy'r adeg.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwion Lewis bod "pwysau ariannol ddim yn ateb i fethiant i osgoi camwahaniaethu"

Yn ôl y bargyfreithiwr gynrychiolodd y teulu, Gwion Lewis, mae'n gosod cynsail pwysig mewn cyfnod lle mae'r pwrs cyhoeddus dan bwysau.

"Rhaid bod yn deg â'r ysgol, a phwysleisio nad ydy hynny o reidrwydd yn dangos fod 'na unrhyw falais wedi bod ar ran yr ysgol," meddai.

"Mae'r gyfraith sy'n ymwneud â chamwahaniaethu wedi esblygu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwetha' i gynnwys enghreifftiau pellach o gamwahaniaethu anuniongyrchol.

"Dwi'n credu y gwelwn ni gynnydd yn nifer yr achosion sy'n dod gerbron y tribiwnlysoedd addysg, oherwydd bod y pwysau ariannol sydd ar gyrff cyhoeddus - ac ar awdurdodau addysg yn benodol - mor sylweddol.

"Beth mae'r tribiwnlys yn ei ddweud yn glir ydy na fydd y pwysau ariannol yna'n ateb llwyr i fethiant i osgoi camwahaniaethu."

'Sicrhau cefnogaeth yn flaenoriaeth'

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Cyngor Gwynedd a'r ysgol eu bod yn "nodi dyfarniad y tribiwnlys a oedd yn ymwneud ag achos yn ystod blwyddyn academaidd 2016/17, a bod unrhyw argymhellion wedi eu gweithredu yn llawn".

Ychwanegon nhw: "Mae sicrhau fod pob un o'n disgyblion yn cael y gefnogaeth maent eu hangen i allu cyrraedd eu llawn botensial yn flaenoriaeth i ni.

"Fel rhan o'r ymrwymiad yma, mae'r Adran Addysg yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau fod pob disgybl yn cael mynediad at unrhyw gymorth arbenigol sydd ei angen."

"Tra na fyddai'n bosib i ni drafod manylion yr achos penodol yma, gallwn nodi fod yr ysgol a'r Cyngor wedi gweithio'n agos i sicrhau fod trefniadau addas yn eu lle a bod staff sydd wedi eu hyfforddi yn llawn yn gallu darparu cefnogaeth arbenigol i ddisgyblion yr ysgol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni'r bachgen yn gobeithio y bydd y dyfarniad "o gymorth i deuluoedd eraill"

Er bod y teulu'n cydymdeimlo â sefyllfa ariannol ysgolion, maen nhw hefyd yn awyddus i sicrhau nad ydy teuluoedd eraill yn wynebu problemau tebyg.

"Mae'r mab yn mwynhau mynd i'r ysgol a mwynhau cwmni ei gyfoedion," meddai Ms Edwards.

"Dwi'n teimlo siom mewn ffordd ein bod ni 'di gorfod mynd i'r fath begwn i sicrhau addysg ar gyfer ein plentyn dim ond oherwydd bod o efo anghenion.

"Mae 'na gyfnodau pan mae'n mab ni'n wael ond roedd hwn yn bwysau a straen cwbl ddiangen.

"'Da ni yn gobeithio bydd hyn o gymorth i deuluoedd eraill sydd â phlant ag anghenion ac y byddan nhw'n cael defnydd o'r dyfarniad yma.

"Mae rhywun yn sylweddoli bod hi'n anodd iawn ar ysgolion ond dwi'n hollol angerddol nad plant efo anghenion ddylai gael eu cosbi oherwydd y toriadau.

"Mae ganddyn nhw hawl fel pob plentyn arall i gael addysg."